Datganiadau i'r Wasg

Benthyciadau Newydd yn creu Argraff yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Amgueddfa Cymru yn aml yn rhannu ei chasgliadau gyda lleoliadau yng Nghymru a thramor. Yn ystod yr hydref mae’r oriel Agraffiadaeth ac Ôl-agraffiadaeth Ffrenig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn arddangos dau fenthyciad pwysig o’r Almaen, fel rhan o fenter gyfnewid ryngwladol.

 

Bydd y paentiad Y Peintiwr Monet yn ei Gwch Stiwdio (1874) gan Edouard Manet ar fenthyg gan y Staatsgalerie, Stuttgart, yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan fis Hydref 2012, tra bydd Y Môr yn Antibes (1888) gan Claude Monet, sydd ar fenthyg  gan Amgueddfa Von der Heydt, Wuppertal yn cael ei arddangos tan fis Ionawr 2012. Maent wedi’u cyfnewid am ddau lun o Fenis gan Monet a llun Storr’s Rock gan Alfred Sisley o gasgliad Amgueddfa Cymru.

Mae’r ddau waith yn cynnig persbectif newydd ar y gweithiau yng nghasgliad yr Amgueddfa. Cafodd llun Edouard Manet Y Peintiwr Monet yn ei Gwch Stiwdio 1874, ei beintio yr un flwyddyn ag Argenteuil, Cychod (Astudiaeth) hefyd gan Manet. Treuliodd y ddau arlunydd yr haf hwnnw yn gweithio gyda’i gilydd ar lannau Afon Seine ym maestref Argenteuil ym Mharis.

Mae Y Môr yn Antibes gan Claude Monet yn dangos sut y datblygodd yr arlunydd ei olygfeydd arfordirol, a ddylanwadodd ar Y Clogwyn ym Mhenarth, Gyda’r hwyr, Trai (1897) gan Alfred Sisley.

Darn o waith arall sy’n cael ei fenthyg gan yr Amgueddfa yw La Parisienne gan Pierre-Auguste Renoir sy’n mynd i Gasgliad Frick yn Efrog Newydd ac yn cael ei arddangos ochr yn ochr â gweithiau mawr eraill yr artist yn arddangosfa Renoir, Impressionism, and Full Length Painting. Ni fydd y llun yn cael ei arddangos yn yr amgueddfa o ddiwedd mis Tachwedd oherwydd gwaith cadwraeth a bydd yn mynd i Efrog Newydd yn mis Ionawr 2012 cyn dychwelyd i’r Amgueddfa yn mis Mehefin 2012. Bydd llun o Gasgliad Frick yn cael ei fenthyg i Amgueddfa Cymru yn y dyfodol.

Dywedodd Curadur Cynorthwyol Celf Hanesyddol, Amgueddfa Cymru, Anne Pritchard,

“Mae benthyg ein gweithiau celf i amgueddfeydd tramor fel y rhain yn yr Almaen ac UDA yn gymorth i gyflwyno ein casgliadau i gynulleidfaoedd rhyngwladol ac yn yr un modd rydyn ni’n derbyn gweithiau celf y gall ein hymwelwyr eu gwerthfawrogi yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

“Rydyn ni’n falch iawn o fedru arddangos y lluniau Argraffiadol gwych yma gan Monet a Manet. Mae nhw’n ategu’r lluniau eraill yn ein casgliadau ac yn rhywbeth gwahanol i’n hymwelwyr fwynhau.”