Datganiadau i'r Wasg

Blodau gwyllt annhymorol yng Nghaerdydd

Mae'r tywydd mwyn dros y gaeaf wedi galluogi 63 blodyn gwyllt i flodeuo, sy'n llawer mwy na'r 20-30 cyfanwsm cyffredin o 20-30 o rywogaethau. Bu Dr Tim Rich o Amgueddfa Cymru a Dr Sarah Whild o Brifysgol Birmingham yn chwilio am flodau gwyllt ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn (Ionawr 2012) a dangosodd y blodau bod y gaeaf wedi bod yn un mwyn.

 

Mae amrywiaeth o blanhigion gwyllt wedi blodeuo yn y gaeaf yn anghyffredin iawn. Dywedodd Dr Tim Rich, Pennaeth Planhigion Fasgwlaidd, Amgueddfa Cymru. "Mae rhan fwyaf o blanhigion gwyllt wedi parhau i flodeuo oherwydd dydi rhew yr hydref ddim wedi bod yn ddigon caled i stopio planhigion dyfu dros y gaeaf. Y planhigyn Alan Mis Bach sydd fod i flodeuo dros y flwyddyn newydd, ond roedd rhywogaethau sydd fel arfer yn blodeuo yn y gwanwyn - collen, briallen a llygad Ebrill - yn blodeuo yn gynnar iawn."

Gorse oedd yr unig un i'w weld yn blodeuo ar y cyntaf o Ionawr 2011, a does dim syndod, yn enwedig arol y tywydd oer ac eira y llynedd.

Mae gaeaf mwyn wedi galluogi llawer o flodau yn yr ardd i flodeuo yn gynnar hefyd megis yCamellia, Forsythia a Laurastinus.

LLUNIAU AR GAEL - cysylltwch a lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 20573175.