Datganiadau i'r Wasg

CYHOEDDI GWELLIANNAU AR SAFLEOEDD YR AMGUEDDFA

Heddiw, 13 Awst, ategodd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC) ei ymrwymiad i wneud mwy fyth o'i gasgliadau'n hygyrch i'r genedl wrth gadarnhau sut y bydd yn gwario grant gwerth £3.5 miliwn oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad.

Bydd y grant yn galluogi AOCC i ymestyn ei gyfleusterau storio ar ei ddau brif safle, sef yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd ac Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, ynghyd â'i safle storio yn Nantgarw, Rhondda Cynon Taf. Bydd hyn yn golygu bod modd cadw casgliadau helaeth yr Amgueddfa o dan well amodau wrth gyflawni argymhellion adroddiad diweddar y Swyddfa Archwilio Gwladol ar y strategaeth rheoli casgliadau.

At hynny, bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn haf 2005 gan gyflwyno hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru. Bydd y cyfleusterau storio gwell yn golygu y bydd AOCC yn gallu cyflwyno cyfres o arddangosfeydd newidiol ar amrywiaeth eang o bynciau diwydiannol yn yr amgueddfa newydd yn ardal forwrol Abertawe. A bydd yr arian yn galluogi AOCC i ddatblygu rhagor ar ei waith gyda phartneriaid ledled Cymru.

Llywodraeth y Cynulliad sydd wedi darparu'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer y gwaith hwn. Ond mae AOCC yn dal i chwilio am gyllid preifat ac arian oddi wrth y sector cyhoeddus ehangach er mwyn cwblhau pecyn ariannol ar gyfer y cynllun a fydd yn costio rhyw £5 miliwn i gyd.

"Rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi ein cynlluniau cyffrous i ddatblygu a gwella ein cyfleusterau storio yn AOCC," meddai Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgueddfa. "Bydd yn arian oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad yn rhoi tipyn o hwb i'n gwaith, ac yn ein helpu ni i'w gwneud yn haws nac erioed o'r blaen i'r cyhoedd elwa ar ein casgliadau, gan gynnwys y casgliadau cadw sydd o'r golwg ar hyn o bryd."

Ychwanegodd Alun Pugh AC, Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon: "Rydw i'n falch dros ben fod AOCC yn defnyddio'r cyllid hwn a addawyd eisoes gan y Cynulliad mewn ffordd mor strategol, nid dim ond i wella ei gyfleusterau storio ond i wneud ei gasgliadau helaeth yn haws i'r cyhoedd fynd atyn nhw."

Mae gan AOCC chwe safle ar draws Cymru ar hyn o bryd sef, yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd; Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan; Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon; yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn 2005.

Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Julie Richards, Swyddog y Wasg
Yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol
Llinell uniongyrchol: 029 2057 3185
E-bost: julie.richards@amgueddfacymru.ac.uk