Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Wlân Cymru yn dathlu Byw yn y Wlad

Dewch draw i ddathlu byw yn y wlad gyda ni y penwythnos hwn (dydd Sadwrn 20 Medi, 10am-3pm) yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-Fach Felindre.

Yn rhan o raglen ddigwyddiadau’r hydref yn yr Amgueddfa, bydd Byw yn y Wlad yn gyfle gwych i ymwelwyr fynd i’r afael â natur – o wenyna gwyrdd i greu lliwurau naturiol o blanhigion.

Bydd y digwyddiad newydd sbon yma’n croesawu crefftwyr lleol o bob cwr o Sir Gaerfyrddin i arddangos eu sgiliau arbennig, o greu rhaff ar gyfer penffrwyn ceffyl i gasglu mêl, ac o greu ffelt i weu.

Meddai’r wenynwraig hamdden, Christine Morgan, fydd yn y sioe: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y digwyddiad – bydd yn gyfle i mi ddangos sut rydyn ni wenynwyr yn gofalu am ein gwenyn ac esbonio sut mae’r amgylchedd yn allweddol wrth gadw gwenyn yn fyw. Mae hefyd yn gyfle gwych i ni ddangos sut rydyn ni’n casglu mêl, a sut mae’n dull ni yn sicrhau mêl o’r ansawdd gorau.”

“Mae’n bleser gennym gynnal y digwyddiad yma,” meddau Pennaeth yr Amgueddfa, Ann Whittall. “Mae’n rhywbeth newydd sbon i ni ac rydym yn gobeithio y bydd digonedd o bobl yn galw draw i weld beth sydd gennym i’w gynnig.”

Yn ogystal â chyfle i weld y crefftwyr ar waith, caiff ymwelwyr fwynhau’r Amgueddfa a dysgu mwy am hanes cyfoethog y diwydiant gwlân – un o’r diwydiannau pwysicaf a mwyaf helaeth yng Nghymru.

Mae mynediad i’r digwyddiad a’r Amgueddfa yn rhad ac am ddim.