Datganiadau i'r Wasg

HAF GORAU'R PWLL MAWR

Chwe mis ar ôl ei ail-lansio'r swyddogol, mae'r Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru yn dathlu ei haf gorau erioed. Denodd dros 50,000 o ymwelwyr i'r safle dros fisoedd yr haf - 38% yn fwy na'r un cyfnod y llynedd.

Mae llwyddiant y Pwll Mawr wedi rhoi hwb i ffigurau ymwelwyr Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru sy'n golygu bod dros hanner miliwn o ymweliadau wedi bod mewn cyfnod o dri mis. Mae AOCC yn gyffredinol yn mwynhau ei haf mwyaf llwyddiannus ers 2001, sef blwyddyn gyntaf polisi mynediad am ddim Llywodraeth y Cynulliad.

I adeiladu ar y llwyddiant hwn, mae'r Pwll Mawr yn chwarae rhan allweddol yn nathliad profiad Treftadaeth y Byd Cymru y Sefydliad Materion Cymreig ym Mlaenafon ar 25 Medi. Bydd y llefarwyr, fel yr hanesydd John Davies, a dirprwy gyfarwyddwr cyffredinol AOCC, Eurwyn William, yn amlinellu pwysigrwydd Blaenafon a'r Pwll Mawr ei hun ar fap treftadaeth y byd. Nod y diwrnod, a gaiff ei gyflwyno mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac Academi, yw dangos y cyfleusterau newydd i ymwelwyr ym Mlaenafon a'r cyffiniau, a rhoi cip ar effeithiau dynodi'r dirwedd hanesyddol hon yn Safle Treftadaeth y Byd.

Cafodd y Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru ei ail-lansio'n swyddogol yn Ebrill 2004 ar ôl cwblhau gwaith ailddatblygu gwerth £7.2miliwn, oedd yn cynnwys grant gwerth £5.3 miliwn oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ynghyd â chymorth pellach oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad, y Bwrdd Croeso a nifer o ymddiriedolaethau a chronfeydd preifat.

Mae'r ailddatblygiad yn rhan annatod o strategaeth ddiwydiannol AOCC, sy'n cwmpasu tair o'n hamgueddfeydd - y Pwll Mawr, yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis - ynghyd ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy'n cael ei datblygu yn Abertawe.

Mae'r Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru ar agor rhwng 9.30 am a 5pm saith niwrnod yr wythnos o ganol Chwefror ran ddiwedd Tachwedd. Mae'r teithiau danddaear yn rhedeg yn gyson rhwng 10 am-3.30 pm. Mae'r amgueddfa'n cynnig mynediad am ddim diolch i gymorth oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.