Datganiadau i'r Wasg

Dwlu darllen gyda’r deinosoriaid

Eleni, fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr ar 5 Mawrth 2015, mae swyddogion addysg Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn mynd â hud a lledrith darllen ac ysgrifennu i Ferthyr Tudful. Byddan nhw’n rhan o ŵyl gelfyddyd a llenyddiaeth flynyddol Spread the Word a gynhelir gan y Stephens and George Centenary Charitable Trust.

Drwy ddefnyddio deinosoriaid i ddenu’r plant at ddarllen ac ysgrifennu, bydd Amgueddfa Cymru yn cynnal gweithdai i ysgolion lleol drwy gydol y diwrnod. Datblygwyd y gweithdai law yn llaw â llyfr plant cyntaf yr Amgueddfa Arwyn yr Anturiwr, Deinosor yn y Goedwig.

Bydd y gweithdai yn gyfle i’r plant gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, llawn hwyl a chael profiadau newydd drwy chwarae a chymryd rhan gan feithrin sgiliau creu a dychmygu tra’n mwynhau.

Mae’r stori boblogaidd yn adrodd hanes Arwyn, deinosor sy’n ofni synau rhyfedd y goedwig ac yn dangos sut oedd synau deinosoriaid yn amrywio yn ôl eu diet – roedd llysieuwyr a chigysyddion yn gwneud synau gwahanol iawn.

Bydd swyddogion addysg Amgueddfa Cymru hefyd yn dod â gwrthrychau a ffosilau o’r casgliadau palaeontoleg – cyfle i’r plant drin a thrafod gwrthrychau sydd fel arfer yn cael eu dangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Dywedodd Grace Todd, Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli yn Amgueddfa Cymru ac awdur Arwyn yr Anturiwr:

Mae Gŵyl Spread The Word wedi bod yn hynod boblogaidd yn lleol.

“Bydd y gweithdai yma yn gyfle gwych i blant sydd heb gael cyfle i ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i weld ein casgliadau a mwynhau ein gweithgareddau.”

Sefydlwyd Stephens & George Centenary Charitable Trust yn Chwefror 2012 i wella lefelau llythrennedd yn ardal Merthyr. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnal cyfres o brojectau llythrennedd yn yr ardal, gyda’r nod o ddod â chymunedau ynghyd, i ysbrydoli pobl ifanc a dangos y mwynhad y gall llythrennedd ei gynnig, ac i gynhyrchu adnoddau creadigol i’w dosbarthu yn yr ardal.

Dywedodd Mrs Vanessa Jones, Ymddiriedolwr gyda The Stephens & George Centenary Charitable Trust:

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Spread The Word.

“Bydd cynnig mwy o brofiadau amrywiol a rhyngweithiol i blant ifanc yn gymorth i’w hysgogi ac yn ehangu eu haddysg a’u datblygiad.”

Mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa diolch i gymorth Llywodraeth Cymru.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.  

– Diwedd –