Datganiadau i'r Wasg

Arddangos Crefftwyr wrth eu Gwaith gan Candelori ar y Glannau

Heddiw, dydd Sadwrn 21 Mawrth,agorir arddangosfa newydd o waith y cerflunydd Adriano Candelori yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Bydd y gyfres Crefftwyr wrth eu Gwaith – cerfluniau terracotta unigol, unigryw ar blinthiau arbennig – i’w gweld yn y Brif Neuadd tan ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf.

Ganwyd Adriano, 82, yn Terni, Umbria, yr Eidal a symudodd i dde Cymru wedi’r Ail Ryfel Byd. Ymgartrefodd yn Llanelli, wedi cael swydd gyda’r Steel Company tra’n ymweld â’i deulu yn y dref.

Wedi i’w gontract yn y ffatri ddod i ben, aeth ati i ddatblygu ei grefft gan fynychu Coleg Celf Dyfed ym 1979. Teyrnged yw’r gyfres Crefftwyr wrth eu Gwaith i grefftwyr diwydiannol y gorffennol – darnau manwl a chywir sy’n nodweddiadol o’i waith.

Wedi’u llunio’n bennaf mewn terracotta, mae’r gyfres yn portreadu’r dyblwr tunplat, y glöwr a’r cloddiwr copr, yr holltwr llechi a’r cowper, y saer olwynion a’r gof. Bydd Adriano yn gwneud ymchwil trylwyr i bob rôl, gan edrych ar bob elfen – o’r gweithwyr eu hunain, i’w dillad a’u hoffer. Bydd yn ymweld ag amgueddfeydd a gweithdai, ac yn holi’r hen grefftwyr am eu hamodau byw cyn dyddiau’r oes dechnolegol. Ffrwyth hyn oll yw cyfres o astudiaethau crefftus o fanwl am weithwyr a diwydiannau sydd bellach bron a diflannu’n llwyr.

Mynegodd Swyddog Arddangosfeydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Jacqui Roach, ei boddhad o lwyfannu’r arddangosfa: “Pleser mawr yw dangos gwaith Adriano yn yr Amgueddfa. Yn y gyfres arbennig hon gwelwn y cyswllt cryf oedd rhyngddo â chrefftwyr diwydiannol y gorffennol, a’i barch atynt. Mae’r manylder yn ei waith yn brawf iddo weithio yn un o’r diwydiannau Cymreig. Dyma’r math o stori y bydd yr Amgueddfa yn ei hadrodd am bobl a chymunedau diwydiannol Cymru.”

Wrth drafod yr arddangosfa, dywedodd Adriano Candelori: “Anrhydedd yw cael arddangos yn Amgueddfa Cymru unwaith eto, a’r tro hwn yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae’r gyfres Crefftwyr wrth eu Gwaith yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa artistig ac rwy’n ymfalchïo ynddi. Diwydiant a sgiliau coll crefftwyr Cymru yw canolbwynt y cerfluniau, ac mae nhw’n agos iawn at fy nghalon. Bydd yr Amgueddfa, â’i harddangosfeydd diwydiannol gwych, yn gartref dros-dro perffaith iddynt.”

Bydd Crefftwyr wrth eu Gwaith i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau o ddydd Sadwrn 21 Mawrth tan ddydd Sul 12 Gorffennaf.