Datganiadau i'r Wasg

Pasg Prysur ar y Glannau gyda Phosau, Crefftau a Gwyddoniaeth

Dewch i f-WY-nhau gweithgareddau gwych yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dros y Pasg.

Bydd Hwyl y Pasg yn dechrau ar ddydd Gwener 2 Ebrill rhwng 12pm a 4pm lle bydd cyfle i deuluoedd fwynhau llwybrau, crefftau, straeon, perfformiadau gan Gerddorfa Acordion Abertawe, cyfarfod Peppa Pinc ac ymweliad arbennig gan Fferm Gymunedol Abertawe.

Trevor Fishlock

Gwyddoniaeth yr Enfys

Drwy gydol y gwyliau gall ymwelwyr ddilyn llwybr drwy ein 15 oriel i ganfod yr wyau a Datrys Pos y Pasg i ddatgloi’r gist wobrau. Cyfle rhyngweithiol, llawn hwyl i deuluoedd ddysgu ffeithiau diddorol am y casgliadau.

Ar Sul y Pasg (3pm) a Llun y Pasg (2pm) bydd ffilmiau poblogaidd yn cael eu dangos yn Oriel y Warws.

Yr wythnos ganlynol gall ymwelwyr ddangos eu sgiliau drwy ddefnyddio dyluniad clyfar a dwy geiniog yn y gweithdy Cydbwyso Creaduriaid rhwng dydd Llun 6 Ebrill a Sadwrn 11 Ebrill (12.30pm-3.30pm). Gall plant 7+ ddysgu mwy am y lliwiau hardd sy’n llenwi’r awyr wedi’r glaw gyda’r cyflwynydd gwyddoniaeth Jon Chase. Cynhelir Gwyddoniaeth yr Enfys rhwng dydd Mercher 8 Ebrill a dydd Gwener 10 Ebrill (11.30am, 1pm a 3pm) a rhaid archebu ymlaen llaw – (029) 2057 3600.

Yn goron ar y cyfan pleser yr Amgueddfa fydd croesawu yr awdur a’r cyflwynydd Trevor Fishlock, seren rhaglen ITV Fishlock’s Wales. Ar ddydd Sul 12 Ebrill am 2.30pm bydd Trevor yn trafod ei lyfr newydd, A Gift of Sunlight, stori dwymgalon y chwiorydd Davies o Landinam – y pâr swil ond dewr a aeth i ryfel cyn rhannu eu cyfoeth rhwng elusennau ac adeiladu casgliad rhyfeddol o gelf ar gyfer eu gwlad.

Mae Trevor wedi gweithio ar leoliad mewn 70 a mwy o wledydd a bu’n ohebydd staff The Times yn India ac Efrog Newydd ac yn rheolwr swyddfa Moscow dros y Daily Telegraph. Mae wedi ysgrifennu llyfrau ar Gymru, India, Rwsia ac America a chyflwyno dros 150 o raglenni teledu am fywyd a hanes Cymru.

“Bydd hi’n wyliau Pasg llawn hwyl i bawb,” meddai’r Swyddog Digwyddiadau, Miranda Berry. “Mae digonedd o weithgareddau celf a chrefft i’w mwynhau, llwybrau diddorol i’w dilyn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu Trevor yr wythnos nesaf.”

Dywedodd Steph Mastoris, Pennaeth yr Amgueddfa: “Rydyn ni wedi trefnu gweithgareddau gwych ar gyfer ymwelwyr a theuluoedd y Pasg hwn. Bydd y gweithgareddau galw draw yn gyfle i gael hwyl tra’n dysgu mwy am ddiwydiant a blaengaredd Cymru.”