Datganiadau i'r Wasg

Rhaglen wirfoddoli Amgueddfa Cymru yn ennill clod

Gyda hithau heddiw (dydd Llun, 1 Mehefin 2015) yn ddechrau’r Wythnos Wirfoddoli, cyflwynwyd Gwobr ‘Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr’ i Amgueddfa Cymru am y cyfleon a gynnigir i wirfoddolwyr yn wyth safle’r Amgueddfa.

Cyflwynwyd y wobr i un o wirfoddolwyr Amgueddfa Cymru, partner cymunedol ac aelod o staff. Mae’n cydnabod rôl Amgueddfa Cymru wrth gynnwys gwirfoddolwyr yn ei gwaith.

Ar hyn o bryd mae 250 o wirfoddolwyr yn Amgueddfa Cymru yn cyfoethogi gwaith y sefydliad dros saith amgueddfa a’r Ganolfan Gasgliadau. Mae’r amrywiaeth cyfleon yn eang – o gatalogio sbesimenau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, i arddio yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ac arddangos Trên Inclein Chwarel Vivian yn Amgueddfa Lechi Cymru.

Dywedodd Sophia Kier-Byfield, 22, sy’n gwirfoddoli yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:

“Mae gwirfoddoli mewn amgueddfeydd wedi bod yn ganolog i ‘mywyd i dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’n gyfle di-ail i ennill profiad gwaith a phrofi cyfleoedd gyrfa, ac hefyd yn brofiad gwerth chweil sy’n rhoi boddhad wrth helpu eraill i gael y gorau o ymweliad ag amgueddfa.”

Bu cymorth gwirfoddolwyr yn allweddol wrth adeiladu fferm o’r Oes Haearn yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru sy’n rhan o broject ailddatblygu enfawr. Dyma’r gwirfoddolwyr yn helpu adeiladwyr arbenigol yr Amgueddfa i adeiladu tai crwn o glai a phridd, ac i ddyrnu Gwenith yr Almaen cyn toi’r adeiladau.  

 Dywedodd Ken Skates, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Rwy’n falch iawn bod Amgueddfa Cymru yn cydnabod pa mor werthfawr yw gwirfoddolwyr i’n sector diwylliannol a threftadaeth. Mae cymaint o’n safleoedd treftadaeth ac amgueddfeydd yn dibynnu ar haelioni pobl yn rhannu eu hamser a’u gwybodaeth i wella profiadau eraill.

“Mae gwirfoddoli hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd gwerthfawr i’r rheiny sy’n cymryd rhan, yn eu helpu nhw i ddatblygu sgiliau newydd i ganfod gwaith, adeiladu hyder ac ennill achrediad. Rwy’n teimlo’n gryf dros greu cyfleoedd i bobl ddatblygu sgiliau sy’n gallu newid bywyd yn y modd hwn, ac yn falch iawn bod Amgueddfa Cymru’n rhannu’r farn yma ac yn cael eu cydnabod am hyn.”

Hwn oedd cais cyntaf Amgueddfa Cymru am statws ‘Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr’, a dyfarnwyd y wobr i bob un o leoliadau’r sefydliad. Dyma Gyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson, yn esbonio ymhellach:

“Rwy’n ymfalchïo’n fawr yng ngwirfoddolwyr Amgueddfa Cymru, a’r gefnogaeth a roddwyd gan ein staff i’r bobl sy’n rhoi o’u hamser i gefnogi’r gwaith caled a wneid yn ein hamgueddfeydd. Mae’r elfen hon o’n gwaith wedi datblygu’n sylweddol.

“Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad mawr i waith Amgueddfa Cymru, gan ychwanegu at sgiliau a sylfaen gwybodaeth y sefydliad ac yn taflu goleuni newydd ar ein gwaith.

“Gall gwirfoddoli fod yn gyfle i unigolion ddatblygu hyder a hunan-barch, neu’n gyfle i eraill ennill sgiliau, gwybodaeth a phrofiad fydd yn eu helpu i ganfod gwaith neu newid gyrfa.”

Gall unrhyw un sydd â diddordeb gwirfoddoli yn un o’n saith amgueddfa gysylltu â Ffion Davies, Cydlynydd Gwirfoddolwyr drwy e-bostio gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk neu ffonio (029) 2057 3500.

Am esiampl o sut mae gwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru wedi gweddnewid bywyd unigolyn, cliciwch yma: www.amgueddfacymru.ac.uk/cymerran/cymuned/ymgysylltu/

-DIWEDD-

NODIADAU I’R GOLYGYDD

 

Am ragor o wybodaeth a delweddau ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch ag Iwan Llwyd, Swyddog Cyfathrebu a Marchnata drwy ffonio (029) 2057 3486 / 07920 027054 neu drwy e-bostio iwan.llwyd@museumwales.ac.uk.

 

Buddsoddi Mewn Gwirfoddolwyr

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yw y cymhwyster safon y Du i bob sefydliad sydd â gwirfoddolwyr yn cyfrannu at eu gwaith.

Mae dros 750 o sefydliadau ledled y DU wedi ennill y cymhwyster achrededig hwn, o grwpiau cymunedol bychan wedi eu cynnal yn llwyr gan wirfoddolwyr i elusennau mawr sydd â sawl cangen a miloedd o wirfoddolwyr.

Perchnogion IiV yw Fforwm Wirfoddoli y DU, sy’n cynnwys prif-weithredwyr yr Asiantaethau Datblygu Gwirfoddoli Cenedlaethol (elusennau annibynnol) sef Volunteer Now (Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon); Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (Wales); Volunteer Scotland a Chyfarwyddwr Gweithredol Gwirfoddoli a Datblygu yr NCVO. Yn 2013, sefydlwyd partneriaeth rhwng Volunteer Ireland a Volunteer Now i hwyluso’r gwaith o gyflwyno IiV yng Ngweriniaeth Iwerddon.

 

Menter Our Museum

Yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru rydyn ni’n cydweithio â Phartneriaid Cymunedol ar fenter Our Museum dan nawdd Sefydliad Paul Hamlyn er mwyn dod a chymunedau ac amgueddfeydd ynghyd mewn partneriaethau byw. Prif nod y gwaith yw datblygu gwirfoddoli yn yr Amgueddfa, ei wneud yn greiddiol i’n gwaith a chreu ‘Cymuned o Wirfoddolwyr’. Rydyn ni’n cydweithio â phartneriaid er mwyn gwireddu’r nod hwn.

Daw ein partneriaid o amrywiaeth o sefydliadau yn y sectorau preifat a chyhoeddus, ac o gyrff lleol a chenedlaethol.

Fel rhan o’r broses rydym yn gweithio i ddatblygu cyfleon gwirfoddoli ar draws yr Amgueddfa. Yn eu plith mae gwaith yn ymwneud â phrojectau presennol sy’n rhan o waith ailddatblygu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru dan naws Cronfa Dreftadaeth y Loteri, fel ail-greu Bryn Eryr, Ffermdy o’r Oes Haearn wedi’i seilio ar gloddfa archaeolegol ar Ynys Môn. Mae gwirfoddolwyr o gefndiroedd newydd wedi bod yn ymwneud â’r gwaith hwn o’r cychwyn cyntaf, yn datblygu sgiliau newydd, yn cyfarfod pobl newydd ac yn gweithio fel rhan o dîm.

Rydyn ni’n gweithio gyda’r Partneriaid Cymunedol i greu rhaglen wirfoddoli gydnerth a chynaliadwy ac yn datblygu dulliau cyfranogi a denu fydd yn cael eu rhannu ar draws Amgueddfa Cymru.