Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn penodi Ceidwad Celf newydd

Mae’n bleser gan Amgueddfa Cymru gyhoeddi ei bod wedi penodi Andrew Renton yn Geidwad Celf. Bydd y cyn Bennaeth Celf Gymhwysol yn olynu Oliver Fairclough, sydd wedi ymddeol o’r Amgueddfa wedi 28 mlynedd o wasanaeth.

Yn ystod ei gyfnod gyda’r Amgueddfa fe lywiodd Oliver y gwaith o ddatblygu Amgueddfa Gelf Genedlaethol Cymru, gan ddenu 100,000 yn fwy o ymwelwyr i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd bob blwyddyn. Ymhlith ei gaffaeliadau nodedig mae gweithiau gan William Dyce, Edward Lear, David Hockney a Burne-Jones, casgliad o weithiau John Piper, dau baentiad pwysig o Blas Margam, cerflun ‘Marwolaeth Tewdrig’ gan John Evan Thomas, ac roedd yr Amgueddfa’n rhan o’r consortiwm a brynodd gampwaith John Constable yn ddiweddar - ‘Salisbury Cathedral from the Meadows’.

Bwriad Andrew Renton yw adeiladu ar lwyddiannau Oliver drwy barhau i ddatblygu orielau celf yr Amgueddfa a’r casgliad celf cenedlaethol yn bethau y gall pobl Cymru ymfalchïo ynddynt a dwyn ysbrydoliaeth ohonynt.

Bydd Andrew yn gyfrifol am rôl Amgueddfa Cymru yn y byd celf ac am gasgliadau celf a chelf gymhwysol cenedlaethol Cymru. Mae’r rhain yn gasgliadau o bwys rhyngwladol ac yn cynnwys casgliad y Chwiorydd Davies o baentiadau a cherfluniau o Ffrainc yr 19eg ganrif, Ystafell Brintiau nodedig, a chasgliad dynamig o gelf gyfoes.

Wedi gweithio yn Amgueddfa Cymru am dros 15 mlynedd – dros 10 o’r rheini fel Pennaeth Celf Gymhwysol – mae gan Andrew brofiad helaeth. Cyn hynny bu’n gweithio fel curadur celf gymhwysol yn Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl.

Ers cyrraedd Caerdydd ym 1999 mae wedi cyfrannu at gynyddu potensial Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym maes celf gymhwysol yr 20fed ganrif a chyfoes.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi curadu arddangosfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar y cyd ag Edmund de Waal (Arcanum: mapio porslen Ewrop, 2005), Elizabeth Fritsch (Strwythurau Dynamig: Llestri wedi’u Peintio gan Elizabeth Fritsch, 2010) a Julian Stair (Quietus: Y Llestr, Marwolaeth a’r Corff Dynol, 2103). Gyda’i gydweithwyr fe ddatblygodd Bregus? – arddangosfa fawr o gerameg gyfoes yn yr Amgueddfa (2015).

Mae hefyd wedi ymchwilio yn helaeth i ystod eang o gelf gymhwysol ar ôl y dadeni, yn enwedig cerameg Cymru. Drwy hyn mae wedi datblygu partneriaethau rhyngwladol fel honno gyda Chyngor Diwylliant Chongqing yn Tsieina, ac mae wedi arwain y gwaith o gaffael nifer o weithiau adnabyddus, gan gynnwys casgliad unigryw o gerameg gan Pablo Picasso ac esiamplau nodedig o gerameg gyfoes.

Brodor o Swydd Efrog yw Andrew; mae’n siarad nifer o ieithoedd gan gynnwys Cymraeg a Tsieinëeg, yn un o Ymddiriedolwyr y Crafts Study Centre ym Mhrifysgol y Celfyddydau Creadigol, Farnham ac yn aelod o dîm golygyddol y cylchgrawn ar-lein ‘Interpreting Ceramics’.

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru:

“Rydw i wrth fy modd bod Andrew wedi cael ei benodi yn Geidwad Celf. Mae’n adnabyddus ac yn uchel ei barch ymhlith staff Amgueddfa Cymru ac yn cael ei gydnabod yn barod am ei gyfraniad at y byd celf yn y DU. Mae ganddo brofiad helaeth yn ei faes arbenigol a record wych yn curadu arddangosfeydd a datblygu casgliadau.

“Carwn hefyd ddiolch i Oliver Fairclough am ei gyfraniad amhrisiadwy i Amgueddfa Cymru gan ddymuno’n dda iddo ar ei ymddeoliad.”

Dywedodd Andrew Renton:

“Mae’n bleser ac yn anrhydedd fawr cael fy mhenodi’n Geidwad Celf. Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad celf o safon ryngwladol ac mae’n gyfle gwych i ysbrydoli ein cynulleidfaoedd amrywiol i ymwneud â’r byd o’u cwmpas mewn modd creadigol, dychmygus.

“Tasg anodd fydd dilyn yn ôl traed Oliver’ ond rydw i’n edrych ymlaen yn eiddgar at yr her nesaf. Rydw i am agor drysau i bawb yng Nghymru at potensial celf i weddnewid bywydau a chyflwyno llwyddiannau creadigol Cymru i gynulleidfa fyd-eang. Rwy’n edrych ymlaen yn barod at weithio gyda thîm dynamig o guraduron celf ar ddatblygiadau nesaf yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol.”

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’n holl amgueddfeydd.