Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa o gasgliad Amgueddfa Cymru o ddarluniau John Piper yn agor yng ngogledd Cymru

Bydd casgliad hynod o olygfeydd o Eryri gan yr artist John Piper, un o artistiaid mwyaf amryddawn Prydain yn yr 20fed ganrif, yn teithio i ogledd Cymru am y tro cyntaf. Bydd yr arddangosfa, Mynyddoedd Cymru, sy’n cynnwys tirluniau gwych o’r gogledd, i’w gweld yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog ger Pwllheli, o 11 Hydref tan 13 Rhagfyr 2015. Bydd y casgliad hefyd i’w weld yn Oriel Ynys Môn y flwyddyn nesaf (13 Chwefror i 19 Mehefin 2016).

Cafodd y casgliad o waith John Piper – yr artist neo-ramantaidd o ganol yr 20fed ganrif oedd â gweledigaeth unigryw o Gymru – ei gaffael ar gyfer casgliad celf cenedlaethol Cymru yn 2014, a hynny am bris hael. Prynwyd y gweithiau gan gasglwr preifat sydd â chysylltiad â Chymru diolch i gefnogaeth hael Cronfa Dreftadaeth y Loteri (£472,900), Ymddiriedolaeth Derek Williams (£350,000) a’r Gronfa Gelf (£80,000).

Bu mynyddoedd gogledd Cymru yn ffynhonnell gyfoethog o ysbrydoliaeth i Piper o ddechrau’r 1940au tan ganol y 1950au, a bu’n rhentu dau fwthyn yn Eryri yn ystod y cyfnod. O’r ddau fwthyn hwn fe deithiai ar hyd y mynyddoedd yn cofnodi eu ffurfiau cymhleth a lled haniaethol, a chyfoeth eu lliwiau.

 

Dangoswyd y gweithiau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am y tro cyntaf yn 2012, pan oeddent mewn dwylo preifat, cyn iddynt deithio i Oriel y Parc yn Sir Benfro ac Oriel Gelf Whitworth ym Manceinion. Yna, yn 2014, cafodd y casgliad o baentiadau eu dangos fel rhan o arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi’i hysbrydoli gan dirlun, llên gwerin a gorffennol Celtaidd Cymru.

Ar y daith newydd, bydd 24 gwaith ar bapur o’r casgliad hwn, sy’n canolbwyntio ar waith John Piper yn Eryri, i’w gweld yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, a bydd y casgliad cyflawn i’w weld yn Oriel Môn y flwyddyn nesaf.Mae’r daith wedi’i hariannu’n hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, sydd hefyd wedi ariannu project addysg blwyddyn o hyd i annog mwy o ymgysylltu â’r paentiadau, ac wedi galluogi Amgueddfa Cymru i rannu sgiliau drwy benodi Gweithiwr Addysg dan Hyfforddiant. Mae’r arddangosfa yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn bosibl diolch i gynllun Cyfoeth Cymru Gyfan – Sharing Treasures Llywodraeth Cymru, sy’n galluogi amgueddfeydd ledled Cymru i fenthyg o gasgliadau cenedlaethol.

 

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Rydym wrth ein bodd fod y casgliad pwysig hwn o waith John Piper yn cael ei fenthyg i Oriel Plas Glyn-y-Weddw ac Oriel Môn, ac y gall cynulleidfaoedd ar draws gogledd Cymru fwynhau gweledigaeth yr artist o Gymru.

“Mae gan yr artist poblogaidd hwn gysylltiad cryf â gogledd Cymru. Mae Eryri yn un o’n trysorau mwyaf fel cenedl ac mae portreadau John Piper o’r ardal yn fendigedig. Mae’n wych gweld y gweithiau’n cael eu harddangos mewn lleoliadau ledled Cymru a’u defnyddio mewn ffyrdd newydd a chyffrous fel y gall pobl ddysgu mwy am dreftadaeth. Gobeithio y bydd ymwelwyr ag Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn mwynhau’r arddangosfa.”

 

Ychwanegodd Gwyn Jones, Cyfarwyddwr Oriel Plas Glyn-y-Weddw: “Rydym wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn hanes y Plas. Ers tro, rydym wedi bod yn ceisio sefydlu’n hunain, nid yn unig fel oriel, ond hefyd fel amgueddfa achrededig.

 

“Mae’r nod hwnnw wedi’i gyflawni, ac rydym ar fin cynnal ein harddangosfa gyntaf ar fenthyg o gasgliad Amgueddfa Cymru, diolch i arbenigedd a chymorth o ran ariannu gan yr Amgueddfa ynghyd â MALD (CyMAL gynt), Ymddiriedolaeth John Andrews a Chyfeillion Plas Glyn-y-Weddw. Mae rhestr hir o bobl wedi cyfrannu at greu’r amodau angenrheidiol sy’n ein galluogi i gynnal arddangosfeydd o bwysigrwydd cenedlaethol yma yn Llŷn.

 

“Byddwn yn cychwyn ein partneriaeth ag Amgueddfa Cymru gyda gweithiau ar bapur o’u casgliad John Piper. Bydd arddangosfa Mynyddoedd Cymru yn gosod y thema ar gyfer ein holl raglen dros yr hydref.”

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.