Datganiadau i'r Wasg

Sgwrs gyda’r awdur Iain Sinclair yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ar gyfer ei lyfr newydd, dychwelyd i fro ei febyd yng Ngŵyr wna Iain Sinclair, awdur Downriver, Lights Out for the Territory a Rodinsky’s Room. Tra’n ysgrifennu Black Apples of Gower fe ddarganfu’r ardal o’r newydd drwy farddoniaeth Dylan Thomas a Vernon Watkins, a chelf Ceri Richards. Ym mis Hydref bydd yr awdur o Gymru yn trafod ei lyfr mewn digwyddiad am ddim yn Narlithfa Reardon Smith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Llun 19 Hydref am 6.30pm (drysau’n agor am 6pm).

Llwyfannir y digwyddiad ar y cyd gan Amgueddfa Cymru ac Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, gydag Iain Sinclair yn trafod ei lyfr newydd mewn sgwrs â’r Athro Damian Walford Davies – Black Apples of Gower: Sylfeini Cadarn y Cof.

 

Cyfres enigmatig o baentiadau gan Ceri Richards ar y thema ‘Afal Du Gŵyr’ a sbardunodd Iain i ddychwelyd i fro ei febyd. Mae’n fwy adnabyddus am ei deithiau drwy Lundain neu ar hyd yr M25, ond y tro hwn mae’n palu drwy atgofion wrth iddo sylweddoli bod cyfres o deithiau rhwng Porth Einon a Phen Pyrod yn gofnodion o ddigwyddiadau pwysig ei fywyd. Mae atgof o gyfarfod y bardd lleol Vernon Watkins yn troi ei olygon at y creigiau a mytholeg y dychwelyd tragwyddol – yr ymadawedig a’r boddedig yn dystion dall.

 

Tra’n crwydro dros glogwyni a phafinau tonnol ac elfennol, daw’r awdur i sylweddoli taw’r hyn a geisia yn y pen draw yw mynedfa Ogof Pafiland, lle y canfu’r Parchedig William Buckland esgyrn y ‘Fenyw Goch’. Nid menyw oedd hi mewn gwirionedd, ond gŵr ifanc a gladdwyd oddeutu 36,000 o flynyddoedd yn ôl – y gladdedigaeth ddefodol gyntaf y gwyddom amdani ar yr ynys hon. Yr ogof rymus a dirgel hon yw cwlwm cêl holl straeon y llyfr.

 

Dywed y bardd, y daearegwr llenyddol a Chadeirydd Llenyddiaeth Cymru, Damian Walford Davies: “Mae’n bleser gwahodd yr awdur adnabyddus Iain Sinclair i Gaerdydd i drafod y cloddio drwy haenau Cymreig daear ei ddychymyg.”

 

Mae’r digwyddiad am ddim, ond i sicrhau sedd ewch i

 

https://www.eventbrite.co.uk/e/evening-lecture-black-apples-of-gower-stone-footing-in-memory-fields-tickets-18821916860?ref=enivtefor001&invite=ODQ5MTkxOC9oZWlkaS5ldmFuc0BtdXNldW13YWxlcy5hYy51ay8w&utm_source=eb_email&utm_medium=email&utm_campaign=inviteformalv2&utm_term=eventimage&ref=enivtefor001