Datganiadau i'r Wasg

Darganfod Trysor yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg

Dyfarnu bod ceiniogau Rhufeinig a modrwyau canoloesol yn drysor

Heddiw (25 Tachwedd 2015) dyfarnwyd bod celc o geiniogau Rhufeinig a dwy fodrwy o’r oesoedd canol yn drysor gan Grwner E.M. Caerdydd a Bro Morgannwg.

Canfuwyd y ceiniogau arian Rhufeinig gan Mr. Richard Annear a Mr. John Player tra’n defnyddio datgelyddion metel mewn cae yn Y Wig ym Mro Morgannwg ar 13 Rhagfyr 2014. Roedd rhai o’r ceiniogau wedi’u gwasgaru o ganlyniad i aredig, a gadawodd y ddau y prif gelc yn y ddaear cyn hysbysu Mark Lodwick, Cydlynydd Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) a churaduron archaeolegol Amgueddfa Cymru. Diolch i hyn, llwyddodd staff yr Amgueddfa i godi’r celc yn un darn a’i ddatgloddio’n ofalus yn y labordy.

Claddwyd y 91 denarii (ceiniogau) Rufeinig mewn potyn â gynhyrchwyd yn lleol. Maent yn dyddio o gyfnod yr Ymerawdwr Nero (AD 54-68) i Marcus Aurelius (AD 161-180) gyda’r diweddaraf yn cael eu bathu yn AD 163-4. Mae ceiniogau pedwar ar ddeg ymerawdwr ac ymerodres yma i gyd yn ogystal â thair ceiniog a fathwyd gan Mark Antony yn 31 B.C. ac oedd yn dal mewn defnydd 200 mlynedd yn ddiweddarach.

Dywedodd Edward Besly, niwmismatydd Amgueddfa Cymru:

 “Roedd pob ceiniog yn gyfystyr â diwrnod o gyflog yn y cyfnod, felly byddai’r celc yn swm sylweddol o arian.

“Canfuwyd y celc prin filltir (1.6 km) fel hed y fran o Sain Dunwyd – lle canfuwyd celc arall o’r ail ganrif yn 2000. Roedd y ceiniogau yno yn cynnwys 103 denarii a gladdwyd oddeutu AD 150. Mae’r ddau gelc yn awgrymu bod economi arian lewyrchus yn yr ardal yng nghanol yr ail ganrif”

Canfuwyd y ddwy fodrwy o’r canol oesoedd yn Llancarfan, Bro Morgannwg gan Mr David Harrison yn Rhagfyr 2013.

Band addurnedig yw un ohonynt, yn teneuo i ffwrdd o’r bezel. Mae’r addurn yn gorchuddio’r wyneb allanol wedi’i engrafu, cyn mewnosod niello (sydd wedi dirywio’n rhannol erbyn hyn ond mae rhai darnau tywyll i’w gweld o hyd). Caiff y fodrwy ei dyddio i’r ddeuddegfed ganrif a gellir ei chymharu â modrwy gyffelyb o gelc Lark Hill, Caerwysg (a gladdwyd tua 1173-74).

Ar y fodrwy aur mae patrwm ailadroddus o haneri blodau a thrionglau am yn ail gyda mowldio igam-ogam dwfn yn eu gwahanu. Credir ei bod yn dyddio o ddiwedd y bymthegfed ganrif.

Dywedodd Dr Mark Redkna, Adran Hanes ac archaeoleg Amgueddfa Cymru: “Modrwyau o wahanol ganrifoedd yw’r rhain – un o’r ddeuddegfed ganrif a’r llall o’r bymthegfed – yn adlewyrchu traddodiadau metelwaith gwahanol, sy’n bwysig i ddangos newidiadau mewn ffasiwn yn ne Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol.”

Heddiw, dyfarnwyd bod sawl canfyddiad arall o’r ardal yn drysor:

  • Crogdlws arian o’r 15-16eg ganrif o Benllyn, Bro Morgannwg

  • Modrwy arian gilt o’r 17eg ganrif o Benllyn, Bro Morgannwg

  • Modrwy arian o’r 15-16eg ganrif o Lancarfan, Bro Morgannwg

  • Tlws arian o’r 13-14eg ganrif o Lancarfan, Bro Morgannwg

  • Modrwy arian o ddechrau’r 18fed ganrif o’r Rhws, Bro Morgannwg

  • Celc o ddiwedd yr Oes Efydd o Benllyn, Bro Morgannwg

  • Celc o ddiwedd yr Oes Efydd o Bentyrch, Caerdydd

 

Caiff y trysorau yma eu caffael gan Amgueddfa Cymru gyda chefnogaeth grant dan nawdd project Cronfa Treftadaeth y Loteri Saving Treasures; Telling Stories.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth neu ddelweddau, cysylltwch â Lleucu Cooke, Swyddog Cyfathrebu:

Ffôn: (029) 2057 3175 / e-bost: lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk 

 

Gwefan: www.amgueddfacymru.ac.uk

 

 

 

 
   

 

 


   @museum_cardiff                       facebook.com/museumcardiff

 

Nodiadau i Olygyddion:

1. Mae’r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) yn fodd o gofnodi a chyhoeddi canfyddiadau archaeolegol gan aelodau’r cyhoedd. Mae wedi bod yn ddull hynod lwyddiannus o gasglu gwybodaeth archaeolegol hanfodol tra’n ehangu’r cynulleidfaoedd a’r cymunedau sy’n ymwneud ag amgueddfeydd.

2. Yn ddiweddar derbyniodd Amgueddfa Cymru, mewn partneriaeth â PAS Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru (y FED), grant o £349,000 o ffrwd Collecting Cultures Cronfa Treftadaeth y Loteri.

Am bum mlynedd rhwng Ionawr 2015 a Rhagfyr 2019, bydd project Saving Treasures, Telling Stories yn sicrhau y gall amgueddfeydd lleol a chenedlaethol yng Nghymru brynu nifer fawr o arteffactau, cyffredin a thrysorau. Bydd yr arteffactau yma’n dyddio o Oes y Cerrig i’r Ail ganrif ar bymtheg.

Bydd rhaglen o Brojectau Archaeoleg Cymunedol yn cael eu cynnal ledled Cymru dros dair mlynedd, gan weithio gydag amgueddfeydd lleol, clybiau datgelyddion metel, cymunedau a chynulleidfaoedd targed.

Caiff gwefan bwrpasol ei datblygu ar gyfer PAS Cymru a’i llwyfannu ar wefan Amgueddfa Cymru. Daw’r wefan hon yn ganolfan i’r wybodaeth ddiweddaraf am ganfyddiadau, cyffredin a thrysorau, o bob cwr o Gymru. Bydd y projectau yn creu rhwydweithiau casglu archaeolegol ac yn darparu amrywiaeth o gyfleon hyfforddi, rhannu sgiliau, bwrsariaeth a gwirfoddoli.

 

3. Creu Hanes. Project ailddatblygu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Bydd casgliadau archaeoleg Cymru yn cael eu hail-arddangos yn y pen draw mewn orielau newydd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd. Hwn fydd y tro cyntaf i gasgliadau cenedlaethol archaeoleg, diwylliannol, diwydiannol a hanes gwerin gael eu harddangos gyda’u gilydd mewn amgueddfa awyr agored. Bydd y project hefyd yn creu ardal archaeoleg awyr agored ac yn ail-greu dau adeilad – fferm o’r Oes Haearn a Llys o Oes y Tywysogion.