Datganiadau i'r Wasg
Canfod Trysor yn Sir Fynwy
Dyddiad:
2015-12-03Dyfarnu bod celc addurniadau o ganol yr Oes Efydd yn Drysor
Heddiw (3 Rhagfyr 2015) dyfarnodd Crwner E.M. Gwent bod celc a ganfuwyd yng nghymuned Llantrisant Fawr yn Sir Fynwy yn Drysor.
Canfuwyd y celc o addurniadau efydd ac aur, ynghyd ag arf a bwyell efydd, gan Mr. Phillip Turton yng nghymuned Llantrisant Fawr, Sir Fynwy rhwng Medi 2013 a Mawrth 2014 wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel ar dir pori garw.
Hysbyswyd Mark Lodwick am y canfyddiad, Cydlynydd Cynllun Henebion Cludadwy Cymru, cyn trosglwyddo’r wybodaeth i archaeolegwyr Amgueddfa Cymru.
Gellir dyddio’r celc i gyfnod Taunton yng nghanol Oes Efydd Prydain, oddeutu 1400-1275 CC neu rhwng 3,400-3,275 o flynyddoedd yn ôl.
Ymhlith y trysorau mae saith darn o dorch blethog efydd oedd mwy na thebyg yn ddwy dorch wahanol, dwy freichled efydd addurnedig, pin dillad efydd mawr, a stribed aur addurnedig wedi’i godi, mwy na thebyg, o drydedd breichled. Hefyd yn rhan o’r celc mae dirk (dagr) efydd a palstaf (ffonfwyell) ddolennog.
Bu archaeolegwyr Cynllun Henebion Cludadwy Cymru ac Amgueddfa Cymru yn astudio’r man canfod gyda chymorth Mr Turton a chefnogaeth perchennog y tir. Dyma hyn yn cadarnhau’r lleoliad claddu, gan fod y celc wedi ei wasgaru mewn blynyddoedd diweddar o ganlyniad i arferion amaethu.
Bwriad Amgueddfa Cymru yw caffael y celc hwn ar gyfer y casgliadau cenedlaethol, wedi iddo gael ei brisio yn annibynnol. Y gobaith yw y bydd grant nawdd project Saving Treasures; Telling Stories Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cyfrannu at hyn.
Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru:
“Mae’r casgliad amrywiol hwn o addurniadau, arfau ac offer yn gyfraniad pwysig i’n dealltwriaeth o gymunedau canol yr Oes Efydd ar draws de Cymru. Claddwyd nifer o gelciau addurniadau ar hyd a lled de Prydain a gogledd Ffrainc. Mae’r darganfyddiad yn Llantrisant Fawr yn brawf bod cymunedau’r Oes Efydd yng Nghymru hefyd yn rhan o’r traddodiad ehangach hwn, yn defnyddio ac yn claddu eitemau a gemwaith efydd ac aur cain.”
Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru.