Datganiadau i'r Wasg

Dathlu Blwyddyn y Mwnci yn y Glannau

Bydd hi’n flwyddyn newydd Tsieineaidd yn fuan, ac unwaith eto mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn rhoi help llaw i Ganolfan Cymuned Tsieineaidd Abertawe gyda’r dathliadau.

Blwyddyn y Mwnci fydd 2016/17, a bydd cyfle i ymwelwyr ymuno â’r dathliadau mewn diwrnod o gerddoriaeth, gweithdai a pherfformiadau i’r teulu cyfan ar ddydd Sul, 7 Chwefror o 11am–4.30m.

Bydd cyfle i ymwelwyr weld dawns llew draddodiadol, cymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft – gan gynnwys dysgu ysgrifennu mewn Tsieinëeg – yn ogystal â gwylio arddangosiadau arbennig gan gynnwys dawnsio Tsieineaidd, acrobateg a’r gelfyddyd anhygoel o newid wynebau.

Ymysg digwyddiadau eraill y diwrnod bydd gair o groeso gan Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe a chyfri’r eiliadau tan y foment fawr am 4pm, pan fydd hi’n hanner nos yn Tsieina.

“Rydym wrth ein bodd o gael cynnal dathliadau lliwgar y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yma,” meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris. “Bydd yn ddigwyddiad prysur, llawn hwyl, gyda digonedd o bethau i ymwelwyr eu gweld a’u gwneud drwy gydol y dydd. Mae’n gyfle gwych i ni gydnabod, a rhoi llwyfan i ddiwylliant, hanes a thraddodiadau cyfoethog cymunedau Tsieineaidd y ddinas a Chymru.”

Gan siarad ar ran Canolfan Cymuned Tsieineaidd Abertawe, dywedodd y Cadeirydd Mrs Wai Fong Lee MBE: “Mae gan y gymuned Tsieineaidd hanes hir yng Nghymru a’r gobaith yw y bydd digwyddiadau fel hyn yn dod â chymunedau’n nes at ei gilydd drwy hyrwyddo dealltwriaeth ddiwylliannol. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at ddathlu’r Flwyddyn Newydd yn Amgueddfa’r Glannau eto eleni, ac yn gobeithio y caiff pawb ddigon o hwyl!”

DIWEDD

Nodiadau i’r Golygydd

Tynnu lluniau: Mae croeso i aelodau o’r wasg a’r cyhoedd i fynychu, cysylltwch â Marie Szymonski ar (029) 2057 3616 am ragor o fanylion.

Mae Canolfan Cymuned Tsieineaidd Abertawe wedi’i lleoli ar Ffordd y Brenin yn Abertawe. Cafodd ei sefydlu i ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth i’r gymuned Tsieineaidd yn y ddinas ac yn ne Cymru. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â info@swanseachinese.org.uk