Datganiadau i'r Wasg

Dathlu Diwrnod Mynediad i’r Anabl yn y Glannau

Yn ddiweddar (Sadwrn 12 Mawrth) bu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cymryd rhan mewn Diwrnod Mynediad i’r Anabl.

Mae Diwrnod Mynediad i’r Anabl yn ddigwyddiad cenedlaethol sy’n annog pobl anabl i ymweld â rhywle newydd sbon gyda theulu a/neu ffrindiau, boed yn gaffi, sinema, canolfan chwaraeon neu amgueddfa.

I nodi’r diwrnod yn swyddogol, cynhaliodd yr Amgueddfa ei thaith sain ddisgrifio gyntaf ar gyfer ymwelwyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall.

Cafodd y daith ei chynnal gan aelodau o staff sydd wedi cwblhau cwrs VocalEyes yn ddiweddar. Mae’r cwrs wedi rhoi sgiliau iddynt allu disgrifio gwrthrychau ac arddangosiadau sy’n caniatáu i’r gwrandäwr ddehongli’r arddangosfeydd mewn ffordd sy’n ddealladwy iddyn nhw. Yn dilyn y daith, roedd cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn trin gwrthrychau.

Wrth siarad am y diwrnod, dywedodd un o’r trefnwyr Jacqueline Roach: “Mae gwneud yr Amgueddfa yn fwy hygyrch yn bwysig iawn i ni, ac mae cynnig taith sain ddisgrifio i bobl sy’n ddall neu’n rhannol ddall yn gam i’r cyfeiriad cywir.”

“Mae cymryd rhan yn y Diwrnod Mynediad i’r Anabl yn gyfle gwych i ymgysylltu ag ymwelwyr sydd efallai ddim yn ymwybodol pa mor hygyrch yw’r Amgueddfa,” ychwanegodd.

Caiff Diwrnod Mynediad i’r Anabl ei noddi gan Euan’s Guide, gwefan ac ap ar gyfer adolygu mynediad i’r anabl, a chaiff ei gefnogi gan Croeso Cymru, VisitScotland a VisitEngland.

DIWEDD