Datganiadau i'r Wasg

Ail amgueddfa gymunedol i agor ei drysau ym Mhenderi

Unwaith eto, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn helpu grwpiau cymunedol i greu amgueddfa eu hunain.

Wedi’i lleoli yng Nghanolfan Gymunedol Penlan, bydd yr amgueddfa newydd yn agor yn swyddogol i’r cyhoedd ar ddydd Gwener 18 Mawrth gyda diwrnod agored i ddathlu’r achlysur.

Gan weithio gyda grwpiau cymunedol y ddinas a sefydliadau lleol yn cynnwys timau Cymunedau’n Gyntaf Dinas a Sir Abertawe, Amgueddfa Abertawe, Grŵp Gwalia, Llyfrgell Penlan ac Archifau Gorllewin Morgannwg, bydd yr amgueddfa gymunedol yn canolbwyntio ar fywydau trigolion ardal Penlan.

“Dyma’r ail amgueddfa gymunedol yr ydym wedi helpu i’w sefydlu,” meddai Curadur Diwydiant Modern a Chyfoes Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Ian Smith. “Mae’n gyfle gwych i bobl leol ddarganfod mwy am eu diwylliant a threftadaeth – y bwriad yw creu gofod i bobl rannu a mwynhau’r straeon hyn gyda’i gilydd.”

Mae’r amgueddfa gymunedol gyntaf – a grëwyd ym mis Tachwedd 2015 – wedi’i lleoli yn Adeilad 104, Broughton Avenue, Blaenymaes ac mae’n llawn gwrthrychau, lluniau, straeon ac atgofion pobl sydd wedi byw a gweithio yn yr ardal.

Bydd agoriad swyddogol yr ail amgueddfa yng Nghanolfan Gymunedol Penlan yn digwydd ddydd Gwener 18 Mawrth o 11am tan 4pm. Bydd disgyblion o ysgolion Gwyrosydd, Tirdeunaw, Bryn Tawe ac Arfryn Primary wrth law i helpu gyda’r gweithgareddau a byddant yn claddu capsiwl amser yn yr ardd i nodi’r digwyddiad.

Yn ogystal â hyn, bydd cynrychiolwyr o Casgliad y Werin Cymru ac Archifau Gorllewin Morgannwg ar gael i esbonio sut gall eu sefydliadau nhw helpu i adrodd hanesion lleol. Bydd cyfle i fwynhau a hel atgofion gyda ffilmiau byrion o Penlan yn y 1960au a’r 70au a hen fapiau o’r ardal.

Dywedodd Zoe Gealy, Uwch Swyddog Addysg yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: “Rydym am annog y trigolion i ymwneud mwy â hanes lleol, rhannu straeon a gobeithio dysgu sgiliau newydd.”

Ychwanegodd Ian: “Rydym yn gobeithio, yn y pendraw, y bydd yr amgueddfeydd cymunedol hyn yn cael eu rhedeg gan drigolion lleol gydag arweiniad gan Amgueddfa Cymru.”

DIWEDD