Datganiadau i'r Wasg

Project ysgolion llwyddiannus yn dod â Miss Bogie i’r Glannau

Pleser Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yw agor arddangosiad newydd yn Oriel Cyflawnwyr Cymru.

Arddangosiad Cornel Darllen Roald Dahl yw ffrwyth project diwrnod cenedlaethol Kids in Museums a ddechreuwyd ym mis Tachwedd y llynedd gyda disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Townhill.

Gweithiodd disgyblion 7 ac 8 oed gyda staff yr Amgueddfa, y cartwnydd Huw Aaron, yr awdur Thomas Docherty ac Awdur Llawryfog Ieuenctid Cymru, Martin Daws i greu cymeriad newydd wedi’i ysbrydoli gan lyfrau a straeon enwog Roald Dahl.

Casglwyd y syniadau a’r darluniau ynghyd i greu Miss Bogie – cerflun 3D llawn maint gan y Cynorthwy-ydd Oriel Jessica Hoad.

Mae Miss Bogie yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr yn barod, yn eistedd yng nghanol yr oriel yn ei chadair fawr goch.

Roedd creu Mrs Bogie o ddeunyddiau amrywiol, gan gynnwys plastr ac ewyn chwyddo, yn brofiad newydd i Jessica, a ddywedodd: “Mae wedi bod yn hwyl gweithio ar y project ac rydw i wedi mwynhau gweithio gyda phawb i ddod â’r cymeriad yn fyw.”

“Roeddwn i’n dwlu ar straeon Roald Dahl yn blentyn ac mae wedi bod yn wych gweld disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Townhill yn cael eu hysbrydoli i greu eu straeon a’u cymeriadau eu hunain. Mae’n wahanol iawn i ’ngwaith celf arferol ond mae wedi bod yn brofiad a hanner dod ag un o’u cymeriadau yn fyw.”

Wrth drafod yr arddangosiad dywedodd y Swyddog Arddangosfeydd, Jacqui Roach: “Dyma ffordd wych i ddisgyblion gymryd rhan a chyfrannu at yr hyn sydd i’w weld mewn amgueddfa.

“Gall y cyhoedd nawr weld a mwynhau ffrwyth eu creadigrwydd – dathliad o’r project ac o yrfa’r awdur Cymreig, Roald Dahl.

“Mae wedi bod yn gyfle gwych i ni wneud y cornel darllen yn lle mwy hwyliog, croesawgar, ac rydyn ni hefyd wedi ychwanegu blwch chwarae i fabanod a gwisg ffansi.”

Mae Swyddog Addysg yr Amgueddfa, Leisa Bryant, wrth ei bodd â’r canlyniad: “Mae wedi bod yn brofiad gwych gweithio gyda staff a disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Townhill a gweld ffrwyth eu dychymyg yn dod yn fyw. Bydd Miss Bogie yn bendant yn ffefryn – mae ymwelwyr wedi bod yn tynnu lluniau a thrydar amdani yn barod!”

Dywedodd Karen David, Dirprwy Brifathrawes Ysgol Gynradd Gymunedol Townhill: “Mae plant blwyddyn 4 wedi dwlu bod yn rhan o’r project. Roedd gweithio gydag awduron ac artistiaid yn eu helpu i greu amryw gymeriadau, yn ogystal â sgrifennu eu straeon eu hunain.

"Roedd y ffaith bod y cymeriad yn mynd i gael ei weld gan bawb yn hwb mawr i’r disgyblion i gyd.”

Rydyn ni’n cwblhau’r project gan mlynedd ers geni Roald Dahl ac mae digwyddiad arbennig o odli ofnadwy a straeon ansbaradigaethus wedi’u trefnu ar gyfer mis Medi i ddathlu’r achlysur.

Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hefyd yn dathlu’r canmlwyddiant gydag arddangosiad  o waith Quentin Blake – yr artist talentog sy’n fydenwog am ddarlunio llyfrau Roald Dahl. Bydd y sioe i’w gweld rhwng 16 Gorffennaf a 30 Tachwedd 2016.

DIWEDD

Nodiadau i’r Golygydd

Bydd arddangosiad Cornel Roald Dahl i’w weld yn Oriel Cyflawnwyr Cymru tan ddiwedd y flwyddyn.

Am ragor o fanylion am ddiwrnod cenedlaethol Kids in Museums ewch i http://kidsinmuseums.org.uk/takingoverday/