Datganiadau i'r Wasg

Diolch am Greu Hanes!

Rhannwch eich atgofion am daith Ewro 2016 hanesyddol Cymru

Ydych chi’n teimlo’n rhan o gyffro campau anhygoel tîm pêl-droed Cymru yn Ewro 2016? Yna helpwch ni i gasglu gwrthrychau ac atgofion a fydd yn adrodd hanes y tîm a'r cefnogwyr fydd yn cael ei gofio fel rhan o hanes ein cenedl.


Mae Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Wrecsam wedi dod ynghŷd i greu fflach amgueddfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Gwener 8 Gorffennaf i gyd-fynd â dychweliad y tîm i Gymru.


Os oes gennych unrhyw wrthrychau yr hoffech eu harddangos; unrhyw beth yr hoffech ei roi i ni; atgofion y byddech yn hoffi eu rhannu, dewch draw unrhyw adeg i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 10am a 4:30pm yfory.


Byddant yn ychwanegu at gasgliad Amgueddfa Wrecsam sy’n cynnwys crysau rhyngwladol Mark Hughes a Ryan Giggs, cap rhyngwladol Seymour Morris o 1936, rhaglen Cymru v Twrci o 1978 a llawer mwy. Hefyd i'w gweld bydd detholiad o gasgliad Amgueddfa Cymru gan gynnwys crys a wisgwyd gan Walter Robbins yn ystod gêm yn erbyn Yr Alban yn 1930 a phêl-droed lledr o'r 1960au.


Yn Wrecsam, wrth gwrs, yw ble y sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym 1876 a’r Cae Ras enwog yw’r stadiwm rhyngwladol hynaf yn y Byd, gyda'r gêm rhyngwladol cyntaf a yn cael ei chwarae yn erbyn Yr Alban. Amgueddfa Wrecsam yw cartref Casgliad Pêl-droed Cenedlaethol Cymru ac ar hyn o bryd mae’n cynnal arddangosfa am ddim o'r enw Cyffyrddiad Cewri: Hanes Pêl-droed Rhyngwladol Cymru. 


Dywedodd Steve Grenter, Arweinydd Treftadaeth ac Archifau, Cyngor Wrecsam:

"Rwyf wrth fy modd bod ein hamgueddfa yn mynd i fod yn rhan o'r dathliadau i nodi’r tîm yn dychwelyd o Ffrainc, mae effaith gorchestion y tîm ar draws y wlad wedi bod yn anhygoel ac mae'n bwysig ein bod yn casglu cymaint o ddeunydd â phosibl i nodi digwyddiadau anhygoel yr ychydig wythnosau diwethaf."


Bydd cerdyn mawr 'diolch' ym mhob un o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru yn ogystal ag Amgueddfa Wrecsam yfory, i ymwelwyr eu harwyddo a dangos eu gwerthfawrogiad am ymdrechion gwych tîm Cymru. Byddant yn cael eu cyflwyno i Gymdeithas Pêl-droed Cymru yr wythnos nesaf.


Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru:


"Does dim amheuaeth, mae hyn yn foment hanesyddol ar gyfer pêl-droed yng Nghymru ac yn wir ar gyfer ein cenedl. Fel amgueddfa genedlaethol Cymru ein rôl ni yw casglu gwrthrychau ac atgofion i gofio’r foment arwyddocaol yn ein hanes."


Os na allwch fynychu ein digwyddiad yfory ond yr hoffech roi eitem, cysylltwch â fflur.gwynn@amgueddfacymru.ac.uk.


Mae sefydliadau cenedlaethol eraill hefyd yn casglu straeon a phethau cofiadwy gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Casgliad y Werin Cymru.