Datganiadau i'r Wasg

Deinosoriaid yn Deor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dros yr haf

Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer Deinosoriaid yn Deor, arddangosfa fawr i’r teulu cyfan yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dros yr haf a genfogir gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. Dyma’r tro cyntaf i’r arddangosfa deithiol hon ddod i Gymru, gan roi golwg prin a chyffrous ar fywyd deinosoriaid drwy gasglu ynghyd rai o wyau ac embryonau mwyaf rhyfeddol y byd.

Yn yr arddangosfa ryngweithiol sy’n rhan o Flwyddyn Chwedlau Llywodraeth Cymru ac yn agor i’r cyhoedd ar 27 Mai 2017, mae sgerbydau deinosor a replicas maint llawn, modelau o embryonau ac wyau i’w cyffwrdd, a model 2.5 metr anferth o nyth deinosor hyd yn oed! Mae’n gyfle gwych i ddod wyneb yn wyneb â deinosoriaid a deall mwy am eu bywyd teuluol, gan gynnwys sut oedden nhw’n gofalu am eu babanod. Dysgwch fwy am balaeontolegwyr a’u darganfyddiadau, rhoi cynnig ar y gwaith eich hun yn y ‘Pwll Palu Mawr’, a rhyfeddwch ar y ddau gast mawr o sgerbydau Tarbosaurus a Probactrosaurus.

Cadwch lygad am ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous i’r teulu i gyd-fynd â’r arddangosfa.

Prynwch eich tocynnau ymlaen llaw drwy Ticketline www.ticketlineuk.com neu yn yr Amgueddfa ar y diwrnod.

  • £7 oedolion (18 a hŷn)
  • £5 gostyngiadau (digyflog, dros 60 oed, unrhyw un mewn addysg lawn-amser neu â cherdyn NUS, pobl anabl)
  • £3 plant (4-17 oed)
  • £17 teulu (2 oedolyn a 2 blentyn)
  • £13 teulu (1 oedolyn a 3 plentyn)

Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Am ddim i blant dan 3 oed.

I archebu ar ran ysgol, ffoniwch yr Adran Addysg ar (029) 2057 3149. Am unrhyw archebion grŵp eraill, cysylltwch â Ticketline ar (029) 2023 0130.

Bydd yr arddangosfa ar agor o 10am bob diwrnod ar wahân i ddydd Llun (ag eithrio Gŵyl y Banc), gyda’r ymwelwyr olaf yn cael mynediad am 4pm.

 

Amgueddfa Cymru sy’n rhedeg saith amgueddfa genedlaethol Cymru, sy’n denu cyfanswm o 1.7 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, gyda mynediad am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Yr amgueddfeydd unigol yw:

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
  • Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre
  • Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

 

Gyda’n gilydd, ni yw sefydliad treftadaeth mwyaf poblogaidd trigolion Cymru.

Ein pwrpas yw defnyddio ein hamgueddfeydd a’n casgliadau i ysbrydoli pobl i feithrin eu hunaniaeth a’u lles, i ddarganfod, mwynhau a dysgu’n ddwyieithog a deall lle Cymru yn y byd.