Datganiadau i'r Wasg

SAIN FFAGAN YN Y RAS AR GYFER GWOBR FAWREDDOG Y LOTERI GENEDLAETHOL

Mae Amgueddfa Werin Sain Ffagan, sef un o atyniadau helaethaf a mwyaf poblogaidd Cymru, yn apelio am bleidleisiau wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Pen-blwydd 25 Mlynedd y Loteri Genedlaethol – yr ymgyrch i ganfod hoff brosiectau erioed y DU a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.  

Dyma’r unig brosiect sy’n cynrychioli Cymru o fewn y categori Prosiect Treftadaeth Gorau. Fe wnaethant lwyddo i guro cystadleuaeth lem oddi wrth fwy na 700 o sefydliadau i gyrraedd y cam pleidleisio cyhoeddus o fewn Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, sy’n dathlu pobl a phrosiectau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau anhygoel gyda chymorth arian y Loteri Genedlaethol.

Bydd y prosiect gyda’r mwyaf o bleidleisiau’n cael ei goroni’n enillydd ac yn derbyn gwobr ariannol o £10,000, tlws eiconig Gwobrau’r Loteri Genedlaethol ac yn mynychu seremoni fawreddog yn llawn enwogion i’w darlledu ar BBC Un ym mis Tachwedd.

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yw un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf blaenllaw Ewrop. Mae’r Amgueddfa, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 70 mlwydd oed y llynedd gyda gwaith adnewyddu o bwys a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol, yn arddangos sut yr oedd pobl Cymru yn byw - o fyd plentyn Neanderthalaidd 230,000 mlwydd oed hyd at heddiw.

Roedd y gwaith trawsnewid ar Sain Ffagan yn rhan o brosiect ‘Gwneud Hanes’ gwerth £30 miliwn i ailddatblygu’r amgueddfa gyda thair oriel newydd, gweithdy creadigol - Gweithdy,  ail-greu dau adeilad newydd yn seiliedig ar dystiolaeth archeolegol a chyfleusterau gwell i ymwelwyr ar gyfer ysgolion a’r cyhoedd. Y grant o £11.5 miliwn oddi wrth y Loteri Genedlaethol tuag at y prosiect yw’r grant mwyaf a wobrwywyd erioed gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Werin Cymru:

“Rydym wrth ein boddau fod Sain Ffagan ar y rhestr fer yn rownd derfynol y Categori Treftadaeth o fewn Gwobrau Pen-blwydd 25 Mlynedd y Loteri Genedlaethol.

Mae lle arbennig i Sain Ffagan yng nghalonnau pobl Cymru a dyma un o’r safleoedd treftadaeth a drysorir fwyaf gan y genedl. Y rheswm dros hyn yw mai dyma yw amgueddfa’r bobl, sy’n archwilio hanes trwy fywydau pob dydd. Yn dilyn ein gwaith ailddatblygu o bwys, a ddadorchuddiwyd gennym ni'r llynedd i’r cyhoedd, rydym wedi diogelu popeth mae pobl yn ei garu am Sain Ffagan, ond wedi cyflwyno dimensiynau newydd pwysig sy’n ei gwneud yn addas i’r diben ar gyfer y dyfodol.

Fe fyddai ennill y wobr hon yn ddiolch anferthol i ymroddiad cannoedd o wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol sydd wedi gwneud y prosiect ailddatblygu hwn yn bosibl.”

Ychwanegodd Jonathan Tuchner, o’r Loteri Genedlaethol:

“Mae’r prosiectau gwych fel y rheini sydd yn rownd derfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

“Mae Sain Ffagan yn gwneud gwaith anhygoel yn ei chymuned leol ac mae’r gwaith a wneir gan yr amgueddfa yn creu argraff eithriadol o arbennig. Maen nhw wirioneddol yn haeddu bod yn rownd derfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol a gyda’ch cefnogaeth chi, fe allent fod yn enillydd.”

I bleidleisio dros Sain Ffagan, ewch at lotterygoodcauses.org.uk/awards NEU ddefnyddio’r hashnod #NLAStFagans ar trydar. Gallwch ddilyn yr ymgyrch hefyd ar Trydar: hashnod:#NLAwards. Mae’r bleidlais yn rhedeg o 9am ar 24 Gorffennaf tan ganol nos ar 21 Awst.

Mae categorïau’r gwobrau yn adlewyrchu prif feysydd ariannu’r Loteri Genedlaethol: treftadaeth, chwaraeon, y celfyddydau, diwylliant a ffilm, cymuned ac elusennau. Bydd Rhywun Chwedlonol o’r Byd Chwaraeon yn cael ei benderfynu trwy bleidlais gyhoeddus ynghyd â chyrhaeddiad oes, arwr ifanc, cydnabyddiaeth arbennig, a gwobrau deuddeg o bobl chwedlonol/arwyr lleol, a fydd yn cael eu dewis gan banel sy’n cynnwys cynrychiolwyr o deulu’r Loteri Genedlaethol. 

Cafodd y Loteri Genedlaethol ei thynnu am y tro cyntaf ar 19 Tachwedd 1994. Mae’r pen-blwydd 25 Mlynedd yn ennyd i ddathlu’r effaith anhygoel mae’r Loteri Genedlaethol wedi’i gael ar y DU, ac yn bwysicaf, i ddweud diolch i chi, chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am gyfrannu degau o filiynau o bunnoedd pob wythnos tuag at achosion da.

Tra mai’r uchelgais gyda’r Loteri Genedlaethol yw ennill – gyda mwy na 5,100 o filiwnyddion wedi’u creu ers 1994 – ei brif bwrpas yw rhoi i bob diben. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi mwy na £40 biliwn ar gyfer achosion da ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth a chymuned dros y 25 mlynedd diwethaf. Mae mwy na 565,000 o grantiau’r Loteri Genedlaethol wedi cael eu gwobrwyo ers 1994, sy’n cyfateb i tua 200 o brosiectau sy’n newid bywydau ym mhob rhanbarth cod post yn y DU er mwyn atgyfnerthu cymunedau, cyflwyno llwyddiant gyda chwaraeon, diogelu’r amgylchedd, datgloi doniau creadigol lleol a gofalu am yr henoed a’r sawl sydd mewn perygl.

Diwedd