Datganiadau i'r Wasg

Dathliad o enwau mawr byd ffotograffiaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae tair arddangosfa o waith pedwar o’r ffotograffwyr mwyaf dylanwadol erioed yn agor dydd Sadwrn 26 Hydref 2019 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

August Sander, Ysgrifennydd gyda Radio Gorllewin yr Almaen, Cwlen, Sekretärin beim Westdeutschen Rundfunk in Köln 1931

ARTIST ROOMS Orielau Cenedlaethol yr Alban a'r Tate. Benthycwyd gan Anthony d'Offay 2010

© Die Photographische Sammlung/SK Stiftung Kultur - August Sander Archiv, Cologne / DACS 2019

Ffoto © Orielau Cenedlaethol yr Alban

Bernd a Hilla Becher: Glofa Blaenserchan, Pont-y-pŵl, De Cymru, 1966

© Ystâd Bernd a Hilla Becher, cynrychiolir gan Max Becher, trwy garedigrwydd Die Photographische Sammlung/SK Stiftung Kultur – Bernd und Hilla Becher Archive, Köln, 2019

Eryri, 1989

© Martin Parr / Magnum Photos / Rocket Gallery

Mae Tymor Ffotograffiaeth 2019–20 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cyflwyno gwaith y ffotograffwyr nodedig August Sander, Bernd a Hilla Becher, a Martin Parr.

 

Mae’r arddangosfeydd yn cynnwys lluniau wedi’u benthyg yn bennaf, nifer ohonynt erioed wedi cael eu harddangos o’r blaen, a’r cyfan yn cael eu dangos am y tro cyntaf yng Nghymru.

 

Mae Martin Parr yng Nghymru (26 Hydref 2019–4 Mai 2020) yn canolbwyntio ar waith Martin Parr, un o’r ffotograffwyr mwyaf dylanwadol a chynhyrchiol sy’n gweithio heddiw. Dros y 40 mlynedd ddiwethaf, bu’n cofnodi pobl, llefydd a diwylliannau yn y DU a thu hwnt, gan archwilio themâu hamdden, treuliant a chyfathrebu. Mae’n portreadu bywyd modern mewn ffordd chwareus a hoffus.

 

Mae’r arddangosfa’n casglu ynghyd, am y tro cyntaf, gasgliad o weithiau Parr yng Nghymru o ganol y 1970au hyd at 2018. Mae ei luniau – nifer ohonynt erioed wedi’u harddangos o’r blaen – yn archwilio gwahanol agweddau ar fywyd a diwylliant Cymru, o gorau meibion a chwaraeon i fwyd, gwyliau a glan y môr.

 

Dywedodd Martin Parr:

 

“Bu Cymru’n dynfa i mi erioed. A minnau’n byw ychydig filltiroedd o’r ffin ym Mryste ers dros 30 mlynedd, roeddwn yn dod i Gymru’n aml i dynnu lluniau ac i ddarlithio ar gwrs ffotograffiaeth ddogfennol enwog Casnewydd. Braint yw cael arddangos y gweithiau hyn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a hoffwn ddiolch i dîm brwdfrydig yr Amgueddfa am awgrymu’r peth, ac am ei wireddu.”

 

Datblygwyd yr arddangosfa hon trwy gydweithio â Martin Parr. Gyda chymorth Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

 

Caiff catalog o’r un enw ei gyhoeddi gan Amgueddfa Cymru i gyd-fynd ag agoriad arddangosfa Martin Parr yng Nghymru.

 

Mae YSTAFELL ARTIST: August Sander (26 Hydref 2019–1 Mawrth 2010) yn cyflwyno dros 80 o ffotograffau gan August Sander (1876–1964), un o ffotograffwyr mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif. Daw’r portreadau hyn o broject anferth Sander, Pobl yr Ugeinfed Ganrif. Nod y project hwn oedd dangos portread gonest o gymdeithas yr Almaen ar y pryd. Bu Sander yn tynnu lluniau pobl o bob oed a chefndir; o ffermwyr, plismyn a gwleidyddion i fricwyr, ysgrifenyddion ac artistiaid. Caiff ei destunau, bob amser yn ddienw, eu hadnabod yn ôl eu swydd neu ddosbarth cymdeithasol, a’u rhannu yn saith grŵp penodol; Y Ffermwr; Y Crefftwr; Y Fenyw; Dosbarth a Galwedigaeth; Y Ddinas; Yr Artistiaid; a’r Bobl Olaf.

 

Daw lluniau’r arddangosfa o gasgliad teithio ARTIST ROOMS, sy’n cynnwys dros 1,600 o weithiau celf modern a chyfoes gan dros 42 artist o fri rhyngwladol. Caiff y casgliad ei arddangos ar draws y DU mewn arddangosfeydd unigol, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr, y Gronfa Gelf a Creative Scotland.

 

Mae ARTIST ROOMS yn perthyn ar y cyd i Orielau Cenedlaethol yr Alban a’r Tate. Sefydlwyd y casgliad trwy Rodd d’Offay yn 2008, gyda chymorth Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Gelf, a Llywodraethau’r Alban a Phrydain. Mae’r arddangosfa wedi derbyn cefnogaeth ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

 

Mae Bernd a Hilla Becher: Delweddau Diwydiant (26 Hydref 2019–1 Mawrth 2020)

yn cynnwys 225 o ffotograffau gan Bernd a Hilla Becher. Fel sylfaenwyr ‘Ysgol Düsseldorf’, fel y caiff ei galw erbyn hyn, dylanwadodd Bernd a Hilla Becher ar genhedlaeth newydd o artistiaid yn cynnwys Andreas Gursky, Candida Höfer, Thomas Ruff a Thomas Struth.

 

Am dros hanner canrif, bu Bernd a Hilla yn cydweithio ar broject i ddogfennu strwythurau diwydiannol ledled Ewrop ac UDA. Buont yn tynnu lluniau o offer weindio, ffwrneisi chwyth, tyrau oeri, tanciau nwy, codwyr grawn, tyrau dŵr ac odynnau calch. Ym 1965 daeth Bernd a Hilla i Gymru am y tro cyntaf, gan ddychwelyd ym 1966 wedi derbyn grant gan y British Council. O’u safle gwersylla yng Nglyn-nedd, buont yn crwydro’r Cymoedd, gan greu cyfres o ffotograffau sydd erbyn hyn yn gofeb i fyd a gollwyd; i’r llafur oedd unwaith mor ganolog i fywyd y cymunedau diwydiannol.

 

Mae’r arddangosfa hon yn gyfuniad o deipolegau adnabyddus Bernd a Hilla Becher, a ffotograffau unigol. Mae’r deunydd archif, sydd wedi’i fenthyg diolch i garedigrwydd stiwdio Becher, yn rhoi syniad o’u dulliau ymchwil a’u proses greadigol, ac yn edrych yn fanylach ar eu hamser yng Nghymru.

 

Dyma’r arddangosfa olaf i gael ei dewis gan Hilla Becher cyn ei marwolaeth yn 2015. Mae’r arddangosfa wedi’i chyd-guradu gan Dr Russell Roberts, ac wedi derbyn cefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Colwinston a Sefydliad Henry Moore.

 

Dywedodd Bronwen Colquhoun, Uwch Guradur Ffotograffiaeth, Amgueddfa Cymru:

 

“Rydym wrth ein bodd o gael arddangos gwaith ffotograffwyr o fri rhyngwladol yng Nghymru. Mae’r tair arddangosfa hyn yn olrhain hanes ffotograffiaeth dros y ganrif ddiwethaf, ac yn mynd ar ôl pynciau sy’n dal yn berthnasol heddiw. Mae’r tymor ffotograffiaeth yn adeiladau ar lwyddiant y rhaglen ffotograffiaeth a’r rhaglen orielau cyfoes yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.  Gobeithiaf y bydd proffil rhyngwladol August Sander, Bernd a Hilla Becher, a Martin Parr, a dylanwad Cymru ar waith Parr, yn dod â chynulleidfaoedd newydd, yn ysbrydoli pobl, ac yn datgelu straeon newydd.”