Datganiadau i'r Wasg

Dan yr Wyneb

Mae Draig Goch wedi’i gwneud o hen gardiau crafu’r loteri ymhlith y gweithiau unigryw mewn arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Crëwyd y ddraig gan James Owen Thomas, gŵr ifanc 18 oed sy’n wreiddiol o Swydd Efrog ond gyda’i fam yn hanu o Gaerdydd. Gydag arddangosfa rad ac am ddim Much More Than Meets The Eye rhwng 16 Tachwedd 2019 a 5 Ionawr 2020 mae’n dod â’i waith collage dychmygus i Gymru am y tro cyntaf.

Ar ôl derbyn gwobr gan y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol eleni, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn edrych ymlaen at roi llwyfan i waith James, a dderbyniodd ddiagnosis o awtistiaeth yn dair oed.

Oherwydd ei awtistiaeth mae’n well gan James gyfathrebu drwy ddelweddau, a datblygodd ei gelf er mwyn mynegi ei hun. Mae celf James i gyd wedi’i greu o hen gardiau crafu fyddai wedi cael eu taflu fel arall, ac yn ogystal â mynegi ei hun â defnyddiau oedd yn ddiwerth i bawb arall mae James hefyd yn amlygu materion amgylcheddol yn ei waith. ‘Dwi wedi dwlu ar liw a phatrwm erioed, ac roedd cardiau crafu yn berffaith i ddatblygu fy hoffter o greu collage,’ meddai.

Cyn creu’r arddangosfa, arweiniodd James weithdy yn yr Amgueddfa i ddangos ei dechnegau gofalus i bobl eraill.

Mae James hefyd wedi cael ei wobrwyo. Y mis diwethaf derbyniodd Wobr Cefnogwr Ifanc y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol am waith ar gyfer ymgyrch Britain in Bloom.

Mae gwreiddiau’r teulu yn y gymuned lofaol, sydd wedi ysbrydoli nifer o’i weithiau – fel y darlun o ferlyn pwll. Ymwelodd hefyd â Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru a chael cyfle i ddysgu am hanes glofaol de Cymru.

Gallwch chi weld arddangosfa Much More Than Meets The Eye a phrynu cardiau yn seiliedig ar waith James yn Amgueddfa Genedlaethol Abertawe o 16 Tachwedd. Mynediad am ddim.