Datganiadau i'r Wasg

Ymunwch yn hwyl yr ŵy-l yn Amgueddfa Wlân Cymru y Pasg hwn

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre yw'r lle i ddod y Pasg hwn os ydych chi'n chwilio am lond lle o hwyl gwlanog!

Ymunwch yn y gweithgareddau yn yr amgueddfa, sy'n rhan o deulu Amgueddfa Cymru, drwy gydol y gwyliau Pasg. O nyddu 3D i daith deuluol arbennig, mae rhywbeth i bawb yn Amgueddfa Wlân Cymru y Pasg hwn. Meddai Curadur a rheolwr yr Amgueddfa, Sally Moss:

“Mae gennym raglen arbennig o weithgareddau ar gyfer y Pasg eleni. Yn ogystal â gweithgareddau yn yr amgueddfa ei hun rydym hefyd wedi bod yn gweithio ar Daith Bentref o amgylch Dre-fach Felindre, er mwyn darganfod pam fod y pentre'n cael ei adnabod fel “Huddersfield Cymru” yn y gorffennol. Mae'r daith hon yn hollol newydd, a bydd ymwelwyr dros gyfnod y Pasg ymysg y cyntaf i roi tro arni.”

Mae gweithgareddau ar gael drwy gydol gwyliau'r Pasg, gyda'r sesiynau nyddu 3D yn digwydd rhwng 13-17 Ebrill – ac mae llefydd ar gyfer y rhain yn brin, felly mae'n rhaid bwcio'r rhain. Gallwch droi i fyny yn yr amgueddfa i fwynhau unrhyw un o'r gweithgareddau eraill. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Am ragor o fanylion, cysylltwch â swyddog addysg yr amgueddfa, Kate Evans ar 01559 370 929.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Gulbenkian eleni.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru ar 07974 205 849 – E-bost Gwenllïan Carr