Datganiadau i'r Wasg

Gwaith yn Cychwyn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae gwaith eisoes wedi cychwyn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gyda staff yn dechrau ar y waith o storio'r casgliadau celf ar gyfer y gwaith adeiladu sy'n cychwyn ym Mharc Cathays yn nes ymlaen eleni.

Dechreuoedd y gwaith yn orielau peintiadau hanesyddol yr Amgueddfa, sy'n gartref i rai o weithiau enwocaf y casgliad cenedlaethol. Ymysg y lluniau cyntaf i gael eu tynnu i lawr oedd portread enwog Adriaen van Cronenburg o Catrin o Ferain, a adwaenid fel 'Mam Cymru' oherwydd ei phriodasau lluosog â'i chysylltodd â nifer o deuluoedd Cymreig pwysig. Mae'r portread olew ar banel yn dyddio o tua 1568.

Tra bo rhai o'r lluniau a'r portreadau yn cael eu storio dros gyfnod ail-ddatblygu'r orielau, bydd eraill yn cael eu harddangos fel rhan o arddangosfeydd eraill yn yr amgueddfa dros y misoedd nesaf. Mae portread Catrin o Ferain yn rhan ganolog o'r arddangosfa Wynebau Cymru, sy'n cyflwyno lluniau a ffotograffau o bobl sydd wedi cyfrannu at fywyd diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd Cymru dros y 500 mlynedd diwethaf. Bydd yr arddangosfa hon hefyd yn cynnwys gweithiau gan enillwyr cystadleuaeth Comisiwn Ffotograffig AXA Art, sef Dominic Hawgood, a dynnodd lun Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, a Ric Bower a dynnodd lun yr awdures Sarah Waters.

Mae Wynebau Cymru yn un o nifer o arddangosfeydd celf a fydd i'w gweld yn yr amgueddfa dros y deunaw mis nesaf wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen. Meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgueddfa, Michael Houlihan, wrth drafod y gwaith adeiladu cyfredol:

"Bydd ein horielau celf wedi'u hailwampio yn diogelu a dangos casgliadau celf byd enwog Cymru yn well. Bydd y gwaith yn cyrraedd ei uchafbwynt gyda llawr uchaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cael ei chlustnodi ar gyfer gweithiau celf, gan greu gofod ardderchog i arddangos ein casgliadau."

Cefnogir y rhaglen ail-ddatblygu gan arian ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Wynebau Cymru yn rhedeg o 3 Mehefin i 24 Medi 2006. Bydd yr Amgueddfa ar agor i'r cyhoedd drwy gydol y gwaith adnewyddu gyda rhaglen llawn o arddangosfeydd a digwyddiadau yn ystod 2006 a thrwy gydol ein canmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau 07.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa ar hyd a lled Cymru a weinyddir gan Amgueddfa Cymru. Y lleill yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o fanylion ar yr ailddatblygiadau, cysylltwch â Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3175.

Am ragor o wybodaeth ar arddangosfa Wynebau Cymru, cysylltwch â Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185.