Datganiadau i'r Wasg

Ymosod y Daleks

Bydd y Daleks yn ymosod ar Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe'r wythnos hon – ond peidiwch â phoeni, bydd y Tardis wrth law i'n hachub ni i gyd.

Bydd y cyffro yn yr Amgueddfa yn Abertawe'n cynhesu gyda'r tywydd, ac ynghyd â'r props diweddaraf o set Dr Who, bydd cerddoriaeth a dawns a llawer iawn mwy. Dyma haf gyntaf yr Amgueddfa, a bydd rhywbeth yma at ddant pawb – ac yn fwy na hynny, bydd y cyfan AM DDIM. Y penwythnos yma, 21 a 22 Gorffennaf, bydd dathliad o liwiau a seiniau'r haf. Bydd Samba Tawe a'u cyfeillion yn perfformio yma dydd Sadwrn, a bydd Big Buzz Radio Wales yma ddydd Sul gyda Shakin Stevens, The Storys ac eraill – hyd yn oed Cyberman.

Dyma restr o'r digwyddiadau sydd ar y gweill, ond i gael rhagor o fanylion ewch i'r wefan sef www.amgueddfayglannau.co.uk <http://www.amgueddfayglannau.co.uk>

Strydoedd Braf, Seiniau'r Haf, 22 Gorffennaf 12-4pm
Dathliad o liwiau a seiniau'r haf gyda Samba Tawe a'u cyfeillion.

BIG BUZZ Radio Wales, 23 Gorffennaf 2pm-8pm
Cerddoriaeth fyw gydag artistiaid amlwg a chyw-artistiaid o'r ardal leol.

Penwythnos Crefftau, 29-30 Gorffennaf 12-4.30pm
Dewch draw i roi cynnig ar rai o sgiliau traddodiadol a modern.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau 07

Nodiadau i Olygyddion:

Partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Dinas a Sir Abertawe yw Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Fe'i dyluniwyd gan gwmni penseiri Wilkinson Eyre a datblygwyd yr orielau newydd gan Land Design Studio mewn cydweithrediad agos â thîm Amgueddfa Cymru. Datblygwyd yr arddangosfeydd rhyngweithiol gan Land Design Studio ar y cyd â New Angle. Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

(1) Cyllid:
Rhoddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri ei grant mwyaf erioed yng Nghymru erioed i'r Project. Cafwyd cyllid pellach gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Bwrdd Croeso Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, cronfeydd Amcan 1 yr UE ynghyd â noddwyr a rhoddwyr eraill.

(2) Oriau agor a'r wefan:
Mae'r Amgueddfa ar agor bob dydd rhwng 1000 â 1700; Mynediad am ddim; i gael rhagor o wybodaeth ewch i www.amgueddfayglannau.co.uk; ffôn 01792 638950