Datganiadau i'r Wasg

Yn trefnu noson allan? Dewch i gymryd rhan yn Nhaith Ystlumod Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Anghofiwch am y sinema, pryd o fwyd yn eich hoff fwyty neu noson o flaen y teledu. Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn cynnig ffordd wahanol o dreulio nos Wener – Taith Ystlumod.

Mae’r daith a gynhelir am 7:30 yr hwyr, nos Wener, 8 Medi 2006, yn roi cyfle i chwilio am, ac i ddod o hyd i ystlumod sydd yn byw ar y safle. Caiff ymwelwyr gyflwyniad i’r mamaliaid cyn mentro allan am dro o amgylch safle’r amgueddfa awyr agored i weld yr ystlumod yn eu cynefin naturiol, a dysgu sut i’w hamddiffyn.

Ceir 17 math gwahanol o ystlum yn y Deyrnas Unedig, y mwyafrif ohonynt un ai mewn perygl neu ar drengi. “Mae Sain Ffagan yn gartref i fathau gwahanol o ystlum gan gynnwys yr Ystlum Trwyn Pedol Leiaf, sydd yn brin ym Mhrydain,” eglurodd Danielle Cowell, Swyddog Prosiect Genedlaethol, Amgueddfa Cymru.

“Mae’r Daith Ystlumod yn ddigwyddiad poblogaidd iawn, sydd yn addas ar gyfer y teulu i gyd. Mae’n rhoi cyfle i ymwelwyr ddefnyddio synhwyrydd ystlumod a gwrando ar ganeuon hudol ystlumod lleol. Rydyn ni’n annog rheini sydd yn cymryd rhan i ddod â thortsh a fflasg gyda nhw, gwisgo esgidiau synhwyrol a bod yn barod am noson anturus, llawn hwyl.”

Am wybodaeth pellach neu i fwcio tocynnau, sydd yn angenrheidiol (£1.50 oedolion, £1 plant, £5 teulu) ffoniwch 029 2057 3466.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.