Datganiadau i'r Wasg

Dathlu pen-blwydd mawr Big Pit

Bydd dathlu mawr ym Mlaenafon ym mis Ebrill wrth i'r amgueddfa lofaol arobryn ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed.

Ers agor yn Ebrill 1983, mae Big Pit wedi croesawu bron i 3 miliwn o ymwelwyr, gan adrodd stori'r diwydiant glo yng Nghymru, a bod yn dyst i frwydrau a thranc y diwydiant hwn a fu gynt mor fawr ei fri. 

Meddai Peter Walker, Rheolwr y Pwll:

"Pan agorodd Big Pit, doedd neb yn credu y byddai'r diwydiant yn dirywio mor gyflym, ac rydyn ni'n falch o gael y cyfle i gadw straeon y glowyr yma a'u teuluoedd yn fyw. Rydyn ni wedi bod trwy gyfnodau anodd ond dros y deng mlynedd diwethaf rydyn ni wedi ailddatblygu safle'r pwll yn llwyr, cael ein henwi fel hoff amgueddfa Prydain ac etholwyd Baddondy Pen y Pwll fel hoff drysor cenedlaethol Cymru. 

"Mae llwyddiant Big Pit wedi para cystal am fod ymwelwyr yn cael cwrdd â glowyr go iawn a chlywed straeon go iawn am fywyd a gwaith yn y cymoedd glofaol. Ni yw atyniad twristiaid mwyaf poblogaidd ardal Gwent ac rydyn ni'n croesawu dros 155,000 o ymwelwyr y flwyddyn yma o bedwar ban y byd."  

I ddathlu'r pen-blwydd arbennig yma, mae Big Pit yn cynnal penwythnos o ddathlu i'r gymuned leol ar 5 a 6 Ebrill rhwng 11am a 4pm. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys arddangosfeydd cymunedol, sgyrsiau a theithiau, achlysuron lansio a llofnodi llyfrau, rownd derfynol cystadleuaeth ‘Creu Caws Pen-blwydd Big Pit' mewn partneriaeth â'r Blaenafon Cheddar Company a'r darlledwraig ac awdur llyfrau ar fwyd Angela Gray, darllediad byw gyda Valleys Radio, ‘Dod 'Sha Thre', arddangosfa o ffotograffau o'r dyddiau fu gan y ffotograffydd lleol Walter Waygood, perfformiadau gan aelodau o gorws Opera Cenedlaethol Cymru a bws gwennol am ddim i gludo ymwelwyr rhwng  Big Pit, Rheilffordd Pont-y-p?l a Blaenafon, Gweithfeydd Haearn Blaenafon a Chanolfan Ymwelwyr newydd Safle Treftadaeth y Byd.

Mae Amgueddfa Cymru'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.