Datganiadau i'r Wasg

Ystafell ddysgu newydd ar gyfer Baddondai Pen y Pwll — yr anrheg pen-blwydd perffaith

Dydd Gwener nesaf, (4 Ebrill), bydd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru'n lansio ystafell ddysgu newydd wrth i'r amgueddfa lofaol arobryn ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed.

Diolch i gyllid ar y cyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (£104,000) a Sefydliad Gulbenkian (£100,000), mae staff Big Pit wrth eu boddau i allu cynnig yr ychwanegiad diweddaraf yma at ddefnydd y miloedd o ymwelwyr sy'n heidio i'r amgueddfa bob blwyddyn.

Mae gan yr adeilad newydd bwrpas allestyn cyffrous ac arloesol a bydd yn dangos bod defnyddio treftadaeth, diwylliant a chasgliadau'r amgueddfa mewn ffordd effeithiol i sbarduno a chynnal brwdfrydedd ymwelwyr. 

Gan ddefnyddio'r cyfryngau newydd a'r dechnoleg ddiweddaraf, bydd yr ystafell yn creu cyfleoedd i bobl ifanc, ac yn dangos bod gan amgueddfeydd rhywbeth i'w gynnig i'r gymuned gyfan, dim ots am eu hoedran, eu gallu na'u cefndir diwylliannol.

Meddai Dan Clayton-Jones, Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Mae amgueddfeydd modern yn esblygu i fod yn fwy rhyngweithiol, arloesol a thechnolegol nag erioed o'r blaen. Mae'r ystafell ddysgu newydd yn Big Pit yn dysgu pobl am eu treftadaeth ddiwydiannol mewn ffordd ffres ac arloesol a bydd yn dod â'r dreftadaeth leol yn fyw i gynulleidfa eang."

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru; Amgueddfa Wlân Cymru; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.