Datganiadau i'r Wasg
Llechi lleol
Dyddiad:
2008-04-10Mae Uned Adeiladau Hanesyddol Amgueddfa Cymru - y tîm sy’n gyfrifol am ddatgymalu adeiladau ar draws Gymru a’u hail-adeiladu yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru er mwyn diogelu’u dyfodol - yn chwilio am lechi traddodiadol Cymreig o Rhaeadr, Powys.
Ffermdy Cilewent, yn wreiddiol o Lansanffraid Cwmteuddwr, yw un o adeiladau mwyaf poblogaidd yr amgueddfa awyr agored ac er mwyn ei ddiogelu, mae’r Uned Adeiladau Hanesyddol am ei ail-doi gyda llechi lleol.
Gofynnir i unrhywun sydd â gwybodaeth neu lechi i roi i’r Amgueddfa er mwyn i Cilewent barhau’n gynrychioliad dilys o d? hir - steil ffermdy cyffredin yng Nghanolbarth a De Cymru yn y 15fed Ganrif - i gysylltu â Janet Wilding, Rheolwr Prosiectau, Yr Uned Adeiladau Hanesyddol ar (029) 20573420 neu e-bostiwch janet.wilding@amgueddfacymru.ac.uk.
Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
- Diwedd -
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon (029) 2057 3486 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.