Datganiadau i'r Wasg

Cist pren yn dychwelyd adref am y tro cyntaf mewn 100 o flynyddoedd!

Draw Dros Y Don

7 GORFFENNAF 2008 - 31 IONAWR 2009

Mae cist pren bychan a ddefnyddiwyd i gludo eiddo personol chwarelwr a’i deulu yr holl ffordd o Gymru i UDA ar droad y ganrif ddiwethaf wedi dychwelyd adref am y tro cyntaf mewn 104 o flynyddoedd, ac mae’n cael lle blaenllaw mewn arddangosfa newydd a gynhelir yn Amgueddfa Lechi Cymru. 

Mae’r arddangosfa – Draw Dros y Don – yn edrych ar wahanol agweddau ar ymfudo, megis gadael eich teulu, addasu i ffordd newydd o fyw a chadw mewn cysylltiad â phobl adref yng Nghymru, ac mae hefyd yn adrodd hanesion rhai o’r chwarelwyr dewr a’u teuluoedd a ymfudodd i UDA ar droad y ganrif ddiwethaf i chwilio am fywyd gwell iddynt hwy eu hunain a’u teuluoedd. Esboniodd y Curadur, Cadi Iolen:

O ganlyniad i’r sefyllfa economaidd ansefydlog yng Nghymru dechreuodd chwarelwyr o Gymru a’u teuluoedd ymfudo i Slate Valley yn UDA o’r 1850au hyd at y 1920au. Mae’r cist yn symbol o’r ymfudo, ac roedd yn eiddo i John a Mary Davies, a deithiodd o Lerpwl i UDA ar yr SS Cedric yn 1904. Roedd hyn yn ystod y cyfnod yn dilyn streic y Penrhyn ym Methesda, a barhaodd am 3 blynedd; mae’n ymddangos na lwyddodd Mr Davies i gael gwaith fel chwarelwr ar ôl y streic, a phenderfynodd y pâr ifanc, a oedd newydd briodi, ymfudo i UDA. Daeth y gist yn eiddo i’w merch, Gwyneth Wood.  Fe’i gwerthwyd mewn ocsiwn yn ddiweddarach ac fe’i rhoddwyd i amgueddfa Slate Valley yn Granville.

Mae’r themâu a’r storïau a geir yn yr arddangosfa yn deillio o’r broses efeillio, sydd mewn grym ers tair blynedd, rhwng Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Slate Valley yn Granville, Talaith Efrog Newydd. Rhan o’r broses hon oedd yr apêl a wnaed yn 2006 yn gofyn i bobl leol yng ngogledd Cymru adrodd eu hanesion am aelodau o’r teulu a oedd wedi ymfudo i UDA. 

Meddai Mary Lou Willits, Cyfarwyddwr Gweithredol Amgueddfa Slate Valley yn Granville: “Daeth y Cymry â’u teuluoedd, eu harferion a’u traddodiadau gyda hwy. Yn sgil hyn, cawsant effaith fawr nid yn unig ar y diwydiant llechi yn America ond hefyd ar strwythur cymdeithasol y trefi yr oeddynt yn byw ynddynt. Mae’n naturiol ein bod wedi meithrin perthynas ag Amgueddfa Lechi Cymru, ac mae gwybod bod y gist hwn wedi croesi’r môr am y tro cyntaf ers canrif a rhagor yn cryfhau’r cysylltiad hwn.

Heddiw, mae disgynyddion John a Mary Davies yn falch iawn o weld bod y gist wedi dychwelyd i Gymru.

"Profiad rhyfedd i ni fel perthnasau i John a Mary ydi gweld y gist a oedd yn dal rhai o'u pethau personol yn dychwelyd i Gymru wedi 104 o flynyddoedd. Mae'n bwysig ein bod ni'n cofio eu bod wedi gorfod gadael eu bro a'u gwlad er mwyn i John fedru cael gwaith, a hynny oherwydd gormes cyfalafiaeth tirfeddiannwr yn gwrthod caniatau i weithwyr ddychwelyd i'r gwaith ar ôl iddyn nhw fynd ar streic dros eu hawliau."

Hefyd yn yr arddangosfa y mae plât llechi amlhaenog a wnaed gan y diweddar Mr Bill Rice o Flaenau Ffestiniog allan o haenau o lechi o wahanol ardaloedd yng ngogledd Cymru a Vermont. Yn ogystal, ceir dau blât i ddathlu gefeillio’r ddwy amgueddfa, a roddwyd gan Amgueddfa Slate Valley, Granville. 

Gall teuluoedd sy’n dymuno ymchwilio i’w gwreiddiau Cymreig ymgynghori â’r ‘Hughes-Jones Collection of Articles of Interest to Researchers of Welsh-Americans from the New York/Vermont State Communities, 1873-1936’.  Cynhyrchwyd y casgliad dwy-gyfrol hwn (353 tudalen) gan John A Jones, Middle Granville, ac Iwan Hughes, Rhuthun, a fu’n cyfieithu erthyglau papurau newydd Americanaidd Cymraeg a dogfennau eraill i’r Saesneg. 

Bydd yr arddangosfa i’w gweld  hyd at 31 Ionawr 2009 yn Amgueddfa Lechi Cymru. Ceir mynediad AM DDIM.

Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am saith amgueddfa genedlaethol drwy Gymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon;  Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- Diwedd -

I gael rhagor o wybodaeth, a fyddech cystal â chysylltu â Julie Williams, y Swyddog Marchnata, Ffôn: 01286 873707 julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk

Nodiadau i Olygyddion

Cychwynnwyd ar y broses o ddod â’r ddwy amgueddfa at ei gilydd dros dair blynedd yn ôl, pan ddechreuodd Dr Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru, ohebu â Mary Lou Willits, Cyfarwyddwr Amgueddfa Slate Valley, Granville, Efrog Newydd. 
 
Ym mis Mai 2006 lansiodd Amgueddfa Lechi Cymru apêl am wybodaeth gan bobl leol yr oedd perthnasau iddynt wedi ymfudo i UDA. 
 
Ar 19 Mai 2007 dathlwyd y ‘gefeillio’ rhwng Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Slate Valley, Granville gan danlinellu’r cwlwm parhaol rhwng pobl Unol Daleithiau America a Chymru. Roedd y digwyddiad yn tynnu sylw at y cysylltiad diwylliannol a hanesyddol rhwng trigolion cymunedau chwarelyddol gogledd Cymru a chymunedau ardal lechi UDA.