Datganiadau i'r Wasg

Dirgelwch yr 'Ysbrydwlithen' - Rhywogaeth newydd yn ymddangos ym Mhrydain

Mae'n bosib y bydd garddwyr Prydain yn sylwi ar newydd-ddyfodiad annisgwyl yr haf hwn - yr Ysbrydwlithen danddaearol, neu'r Selenochlamys (ysbryda), fel y'i henwyd gan arbenigwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Aelod o'r cyhoedd sylwodd arni'n gyntaf mewn gardd yng Nghaerdydd yn 2007. Syfrdanwyd biolegwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd pan ddangoswyd sbesimenau iddynt nas gwelwyd o'r blaen yn Ewrop. Gwelwyd yr Ysbrydwlithen mewn gardd yng Nghaerffili hefyd.

Mae creaduriaid o'r math yn byw yn Georgia a Thwrci fel rheol, ond mae tarddiad y wlithen arbennig hon, a sut y daeth i Brydain, yn ddirgelwch. Yn wahanol i'r mwyafrif o wlithod, mae'r Ysbrydwlithen yn gigysol ac mae'n lladd mwydod yn y nos â'i dannedd pwerus llafnaidd, gan eu sugno i'w chorff fel sbageti. Nid oes llygaid ganddi, mae'n gwbl wyn, ac mae'n byw o dan y ddaear gan wasgu ei chorff hyblyg i mewn i holltau i gyrraedd at y mwydod.

Ysbrydwlithen aeddfed, tua 7cm o hyd.

"Mae'r Ysbrydwlithen yn perthyn i gr?p o wlithod anghyffredin nad oes modd ei ynganu, bron - y Trigonochlamydidae," meddai Ben Rowson, un o fiolegwyr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. "Bu'n rhaid i ni chwilio trwy nifer o hen gyhoeddiadau mewn Rwsieg ac Almaeneg i ddod o hyd i unrhyw beth tebyg iddynt - cyn darganfod eu bod yn rhywbeth hollol newydd. "

Roedd yn wahanol i'r gr?p o greaduriaid mwy, heb lygaid ac ag anatomeg fewnol wahanol, a sylwodd y gwyddonwyr mai rhywogaeth nas disgrifiwyd o'r blaen oedd hi, heb enw gwyddonol. Penderfynwyd galw'r creadur yn Selenochlamys ysbryda, yn rhannol o'r gair Cymraeg ysbryd, enw sy'n ymddangos gyda'r disgrifiad o'r rhywogaeth yn rhifyn Mehefin o'r Journal of Conchology. Esboniodd Ben:

"Roedd Selenochlamys ysbryda i'w weld yn addas ar gyfer yr heliwr nosol iasol hwn, ac mae'n cyfeirio at lle cafodd ei darganfod gyntaf. Rydym yn credu mai dyma'r tro cyntaf i air Cymraeg gael ei ddefnyddio mewn enw gwyddonol anifail."

Fe astudiodd Bill Symondson, ecolegydd ym Mhrifysgol Caerdydd, y wlithen hefyd. Ychwanegodd:

"Gallai'r diffyg llygaid a lliw'r corff fod yn arwydd i'r rhywogaeth esblygu mewn system ogofau. Mae'n debygol iddi gael ei chyflwyno i Brydain mewn potiau planhigion, sy'n golygu mai rhywogaeth estron yw hi, er nad oes modd bod yn sicr. Rydym yn pryderu y gallai ddod yn bla, ond mae'n rhaid dysgu mwy amdani yn gyntaf."

I fonitro lledaeniad y Wlithen, mae'r amgueddfa wedi cynhyrchu llawlyfr adnabod syml sydd ar gael ar ei gwefan: www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/rhagor/erthygl/?article_id=193.

Yn aml, y llefydd gorau i adnabod anifeiliaid neu blanhigion anarferol yw Amgueddfeydd sydd â chasgliadau hanes natur a staff arbenigol, fel Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac mae'r mwyafrif ohonynt yn croesawu ymholiadau oddi wrth y cyhoedd.

Mae mynediad i Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion,  Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 029 2057 3185/07920 027067 neu anfonwch e-bost at: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i olygyddion:

  • Cyhoeddwyd disgrifiad gwyddonol o'r rhywogaeth y mis hwn yn y Journal of Conchology (cyfnodolyn s?olegaidd Prydeinig am folysgiaid, a sefydlwyd ym 1874) (Journal of Conchology - volume 39 - page 537 - 552).
  • Prifysgol Caerdydd:
    Caiff Prifysgol Cymru ei chydnabod yn asesiadau annibynol y llywodraeth fel un o brif brifysgolion addysg ac ymchwil Prydain. Cafodd hefyd ei graddio fel un o 100 prifysgol gorau yn y Times Higher Education Supplement (THES). Mae 2008 yn cofnodi 125 mlwyddiant sefydlu Prifysgol Caerdydd trwy Siarter Frenhinol ym 1883. Heddiw mae'r brifysgol yn cyfuno adnoddau modern trawiadol ac agwedd ddeinamig tuag at ddysgu ac ymchwil. Ymysg arbenigedd eang y Brifysgol o ran ymchwil a dysgu drwy ymchwil mae: y dyniaethau, y gwyddorau naturiol, ffisegol, iechyd, bywyd a chymdeithasol; peirianneg a thechnoleg; paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o broffesiynau; ac ymroddiad hirsefydlog at ddysgu gydol oes. Mae Caerdydd yn aelod o'r Rusell Group sy'n cynnwys prif brifysgolion ymchwil y DU, ac fe'i gosodwyd yn 7fed yn y DU am safon ei hymchwil. Ewch at wefan y brifysgol: www.Caerdydd.ac.uk.