Datganiadau i'r Wasg

Dirgelwch Cerddoriaeth

Ensemble Llychlynaidd Music for the Mysteries yn dechrau eu taith Prydeinig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Dewch i ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am ganol dydd, dydd Gwener, 5 Medi ar gyfer profiad cerddorol newydd gan bum cerddor Llychlynaidd sy’n rhan o Music for the Mysteries.

Mae’r ensemble yn perfformio cerddoriaeth gyfoes yn seiliedig ar Draddodiadau Dirgelwch y Gorllewin, sy’n portreadu hen chwedlau a rhai Celtaidd. Dewisir eu repertoire i gyd-fynd â’r lleoliad ac un o’r darnau a berfformir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fydd ‘Y 7 nature.’ Geiriau Celtaidd-Arthuraidd sydd iddi gan Mike Harris o Gymru.

Mae aelodau Music for the Mysteries yn cynnwys y gantores Agnethe Christensen sydd hefyd yn chwarae’r cantele; Hanne Tofte Jespersen sy’n canu, yn canu’r piano a’r seiloffon Ghanaidd; chwaraeir y ffidil gan Kuno Kjærbye; Ida Bach Jensen sy’n chwarae’r bas dwbl; a Anders Hvidberg-Hansen sy’n gyfrifol am yr offerynnau taro. Bydd cyfle i siarad gyda’r cerddorion yn dilyn y perfformiad.

Mae’r daith yn cynnwys perfformiad yn seminar flynyddol Dion Fortune yn  Glastonbury ddydd Sadwrn, 6 Medi a chyngerdd yn Abaty Glastonbury ar 7 Medi. Serch hynny, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fydd eu cyngerdd gyntaf fel yr eglura Swyddog Digwyddiadau’r Amgueddfa, Heidi Evans:

’Rwy’n falch iawn mai Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw lleoliad cyntaf taith Music for the Mysteries. Mae’n hyfryd gallu cynnig ffurf newydd o adloniant cerddorol i’n hymwelwyr, sy’n dod a hanes yn fyw mewn ffordd newydd a diddorol.”

Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.