Datganiadau i'r Wasg

Peth prin

Aderyn gyddfgam yn dod i feddiant yr Amgueddfa.

Dim ond hanner dwsin o adar gyddfgam y disgwylir eu gweld yng Nghymru bob blwyddyn. Serch hynny, mae saith neu wyth ohonynt eisoes wedi cael eu gweld yn 2008, a chyflwynwyd un o'r rhain i Amgueddfa Cymru i'w ddiogelu.

Aderyn bach tua'r un maint ag aderyn y to yw'r aderyn gyddfgam. Darganfuwyd yr aderyn hwn yn farw ar gyrion Ceinewydd, Ceredigion, gan aelod o'r cyhoedd yr wythnos ddiwethaf, ac fe'i cynigwyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer ei chasgliadau.

Mae'r aderyn gyddfgam yn aderyn trawiadol. Mae'n llwyd yn bennaf, ac mae ganddo frychni brown a llwydfelyn, a streipen dywyll ar ei gefn.

Fel arfer, dim ond yn yr hydref y gwelir yr aderyn hwn, sy'n aelod o deulu cnocell y coed. Ond mae eleni wedi bod yn flwyddyn fwy poblogaidd nag arfer i'r rhywogaeth. Yn sgil gwyntoedd dwyreiniol diweddar a gwasgedd uchel, gwelwyd o leiaf 150 ohonynt ledled y DU dros y tair wythnos diwethaf. Mae'n debygol iddynt gyrraedd ein glannau o Sgandinafia.

"Rydyn ni wrth ein boddau i gael y cyfle i ychwanegu'r aderyn gyddfgam hwn at ein casgliadau," dywedodd Peter Howlett, Curadur, Anifeiliaid ag Asgwrn Cefn. "Mae'n aderyn prydferth a bydd yn ychwanegiad gwych i'n casgliadau."

"Mae gan yr Amgueddfa ddiddordeb mewn rhywogaethau prin gan eu bod nhw'n helpu i adrodd stori amgylchedd naturiol Cymru. Ac nid dim ond adar sydd o ddiddordeb i ni. Mae hwn yn gyfnod poblogaidd ar gyfer anifeiliaid môr anarferol, gan fod y môr ar ei gynhesaf. Felly, os yw pysgotwyr neu drigolion ardaloedd arfordirol yn gweld rhywbeth estron neu anghyffredin, hoffem glywed oddi wrthynt hefyd."

Un o wrthrychau mwyaf poblogaidd yr Amgueddfa yw'r crwban môr lledrgefn a olchwyd i'r lan ar draeth Harlech, Gwynedd ym mis Medi 1988. Aelod o'r cyhoedd a hysbysodd yr Amgueddfa amdano, a heddiw mae'n rhan bwysig o'r oriel 'Dyn a'r Amgylchedd.' Yn ddiweddar, daeth cledd bysgodyn mewn perygl a ddarganfuwyd yn farw ar draeth y Bari, i feddiant Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hefyd.

Os ddewch chi o hyd i anifail prin neu anghyffredin yr ydych yn credu gallai fod o ddiddordeb i Amgueddfa Cymru, cysylltwch â Peter Howlett yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar (029) 2039 7951.

Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.