Datganiadau i'r Wasg

Darwin Arlein yn 'gyflawniad aruthrol'

Medal Thackray yn cael ei chyflwyno yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

 Cyflwynir Medal John Thackray - a gyflwynir gan y Gymdeithas Hanes Astudiaethu Natur am lwyddiant ym maes hanes a llyfryddiaeth astudiaethau natur - i Dr van Wyhe am Gweithiau cyflawn Charles Darwin Arlein yng Nghyfarfod Blynyddol y gymdeithas ryngwladol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd y penwythnos hwn (27 - 28 Mawrth 2008).

Dr van Wyhe, hanesydd gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt, yw sylfaenydd a Chyfarwyddwr Darwin Arlein (www.darwin-online.org.uk) - adnodd mwya'r byd, a'r un a ddefnyddir fwyaf, ar Charles Darwin. Ef fydd yn derbyn y wobr ar ran y prosiect.

Disgrifir yr adnodd gan y Gymdeithas Hanes Astudiaethau Natur fel:

"Cyflawniad aruthrol: sy'n gwneud casgliad eang o ffynonellau sylfaenol ar gael yn rhad ac am ddim, ac mewn modd sy'n hawdd ei ddefnyddio gan ddechreuwyr ac arbenigwyr fel ei gilydd."

Cynhelir y seremoni yn ystod Cyfarfod Gwanwyn a Blynyddol y gymdeithas am 2009 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a fydd yn canolbwyntio ar ‘Etifeddiaeth Darwin: archwilio amrywiaeth ac esblygiad yn hanes bioleg maes.' Mae'r siaradwyr yn cynnwys Yr Athro Tony Campbell o Ganolfan Darwin Sir Benfro, Yr Athro Arthur Lucas, Pennaeth Coleg Kings, Llundain, arbenigwyr Astudiaethau Natur ac Archeoleg Amgueddfa Cymru, a bydd Dr van Wyhe ei hun yn rhoi darlith ar Dr John Ramsbottom OBE.

Dywedodd Maureen Lazarus o Adran Bioamrywiaeth a Bioleg Systematig yr Amgueddfa, sy'n aelod o gyngor y gymdeithas:

"Mae'n anrhydedd mawr croesawu'r Gymdeithas Hanes Astudiaethau Natur i Gymru eleni, yn enwedig gan ei bod yn flwyddyn mor bwysig o safbwynt esblygiad a Charles Darwin. Mae'r digwyddiad hefyd yn cydredeg ag arddangosfa Darwin: Newid Byd yr Amgueddfa, a fydd ar agor hyd at Ionawr 2010."

Am fwy o wybodaeth am y cyfarfod ewch i www.shnh.org.

Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd diolch i gymorth Llywodraeth y Cynulliad. Mae gan Amgueddfa Cymru saith o amgueddfeydd cenedlaethol ledled y wlad, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk

Nodiadau i olygyddion:

• Cymdeithas Hanes Astudiaethau Natur yw'r unig gymdeithas ryngwladol sy'n astudio hanes botaneg, swoleg, daeareg, yn yr ystyr eangaf, yn cynnwys casgliadau astudiaethau natur, archwilio, celfyddyd a llyfryddiaeth. Mae croeso i unrhywun sydd â diddordeb yn y pynciau hyn - boed yn amatur neu'n broffesiynol - i ymuno.

• John Thackray (1948 - 99) oedd Llywydd y Gymdeithas. Mae'r fedal, a sefydlwyd yn 2000 i goffáu bywyd a gwaith John Thackray, yn cael ei chyflwyno'n flynyddol i wobrwyo cyfraniad nodedig i hanes astudiaethau natur dros y dair blynedd blaenorol.