Datganiadau i'r Wasg

Big Pit yn cyrraedd carreg filltir fawr arall

Ar ddydd Gwener 15 Mai mae Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru'n disgwyl croesawu'r ymwelydd a fydd yn golygu bod tair miliwn o bobl wedi ymweld â'r Amgueddfa ers iddi agor chwech ar hugain o flynyddoedd yn ôl. Bydd yr ymwelydd arbennig yn derbyn swfenîr i gofio'r achlysur.

Mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y cynnydd ym mhoblogrwydd Big Pit dros y ddegawd ddiwethaf. Mae'r rhain yn cynnwys y polisi a gyflwynwyd yn 2001 o gynnig mynediad am ddim gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r miliynau o bunnoedd a wariwyd i wella profiad yr ymwelydd.

Meddai Peter Walker, Ceidwad Big Pit: "Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn bwysig i Big Pit gan ei fod yn arwydd o'r llwyddiannau cynyddol dros y ddegawd ddiwethaf, sydd wedi bod yn gyfnod o dorri recordiau cyson o ran nifer yr ymwelwyr ac o ennill gwobrau am ein profiad ymwelwyr eithriadol.

"Mae'r daith dan ddaear wastad wedi bod yn boblogaidd iawn, ond yn ddiweddar mae'r ailddatblygu ar y safle a noddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri wedi rhoi adeiladau ac arddangosfeydd sydd yr un mor boblogaidd ar wyneb y safle. Mae'r datblygiad hwn wedi ein helpu ni i dderbyn acolâdau fel ‘Gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn Gulbenkian', 'Amgueddfa Ryngweithiol Orau Prydain' a 'Hoff Drysor Cenedlaethol Cymru'."

Mae Big Pit yn rhan o Amgueddfa Cymru sy'n gweithredu chwe amgueddfa genedlaethol arall dros Gymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae mynediad i Big Pit a phob safle o fewn Amgueddfa Cymru am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.