Datganiadau i'r Wasg

Gweithdy newydd yn cychwyn yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Lansiwyd gweithdy newydd o'r enw Canwch gyda'ch dwylo yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Digwyddodd y gweithdy ar ddydd Llun 18 Mai a'r bwriad oedd cyflwyno arwyddeg syml i blant ifainc.

Mwynhaodd y plant awr hwyliog o ddysgu drwy chwarae wrth ganu detholiad o hwiangerddi poblogaidd a defnyddio pypedau.

'Ar ôl llwyddiant ysgubol Canu gyda'r babi, penderfynon ni gyflwyno gweithdy newydd oedd yn cyflwyno canu mewn arwyddeg,' meddai Swyddog Digwyddiadau, Delyth Thomas. 'Mae Kathy Edwards, sy'n Gynorthwyydd Dysgu, a fi wedi'n hyfforddi i ddefnyddio Arwyddeg Prydain ac roedden ni'n meddwl byddai'n ffordd dda i ddysgu sgiliau newydd i'r plant.'

Roedd cwmni o Rydaman (www.babysignfactory.com) yn helpu gyda'r gweithdy. Yn ddiweddar roeddynt wedi lansio pecyn arwyddo gyda'r babi Cysuron Cyntaf Bamba sy'n defnyddio arwyddion syml fel y gall babis a phlant bach ddweud os oes angen bwyd, diod neu gwsg arnynt.

'Roddem ni'n hapus iawn i fod yn rhan o'r digwyddiad yn yr Amgueddfa,' dywedodd perchnogion y cwmni Yvonne Miller ac Amanda Rees. 'Roedd yn gyfle gwych i ni ddweud wrth bobl am ein pecynnau i helpu teuluoedd i gyflwyno arwyddeg fel rhan o'u cyfathrebu bob dydd.'