Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn ennill cyfran o wobr crefftwaith cyfoes gwerth £75,000

Mae'r elusen annibynnol y Gronfa Gelf a'r Cyngor Crefftau wedi cyhoeddi heddiw (15 Mai 2009) bod Amgueddfa Cymru yn un o'r pum enillydd Casglu gan y Gronfa Gelf sef dyfarniad o £75,000 i guraduron i gaffael darn o grefftwaith cyfoes i'w hamgueddfa neu oriel.

Ddoe ar 14 Mai digwyddodd diwrnod rhagolwg ffair ryngwladol y Cyngor Crefftau sef Casglu a gynhaliwyd yn Oriel Saatchi yn Llundain.

Roedd Andrew Renton, Pennaeth Gelf Gymwysedig Amgueddfa Cymru, ymhlith deg curadur a gymrodd ran mewn ras agos iawn o gwmpas y ffair gydag un awr yn unig i ddethol gwaith newydd i'w hamgueddfeydd.

Wedyn penderfyniad panel o arbenigwyr oedd dewis yr enillwyr gan ddyfarnu cyfran o'r £75,000 i gaffael eu gwrthrychau o ddewis.

Dewisodd Andrew Renton Streipen goch, 2008 gan Rachael Woodman am £6,500. Roedd y darn yn cynnwys wyth tiwben wydr ar sylfaen o lechi, wedi'i fywiogi gan ddefnydd trawiadol o liw. Mae Rachael Woodman yn wneuthurwraig gwydr o Loegr wedi'i lleoli yng Nghaerfaddon. Mae'r gwaith hwn yn gynnyrch o'i chydweithio gyda'r chwythwr gwydr, Stuart Hearn.

Meddai Andrew Renton: ‘Mae'n newyddion da iawn i ni fod y Gronfa Gelf wedi cydnabod uchelgeisiau Amgueddfa Cymru ar gyfer ei chasgliadau crefft ac wedi ein galluogi i gaffael gwaith mawr newydd. Mae cynllun Casglu'r Gronfa Gelf wedi cyflawni llawer wrth gynyddu hyder curaduron casgliadau crefft Prydain a thrwy'r caffaeliad hwn bydd yn helpu Amgueddfa Cymru i gyrraedd ei photensial llawn yn y byd crefftau sydd mor fywiog yn ne Cymru. Mae darnau arwyddocaol gan yr artistiaid a'r crefftwyr gorau yn gwneud cyfraniad pwysig i'r orielau celf fodern a chyfoes a ailddatblygwyd gan yr Amgueddfa.'

Meddai Andrew Macdonald, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gronfa Gelf: 'Mae'r pum amgueddfa hyn wedi cael gwrthrychau prydferth a chain sy'n cynrychioli'r gorau mewn crefftau cyfoes. Mae Casglu'r Gronfa Gelf yn ffordd wych i guraduron fod yn ddewr a chael gweithiau trawiadol i'r cyhoedd cyn bod prynwyr preifat yn eu bachu.'

Meddai Rosy Greenlees, Cyfarwyddwr Gweithredol y Cyngor Crefftau: 'Hoffwn longyfarch yr amgueddfeydd a'r orielau a enillodd. Nod y Cyngor Crefftau yw gwneud Prydain y lle gorau i wneud, gweld a chasglu crefftwaith cyfoes ac mae'r Gronfa Gelf yn ganolog i gyflawni'r amcanion hyn gan gefnogi gwneuthurwyr, casgliadau cyhoeddus a chyfleon i ymwelwyr i weld y gorau ym myd crefftau.'

Mae Casglu'r Gronfa Gelf erbyn hyn yn ei ail flwyddyn ar ôl cael ei sefydlu yn 2008 gan y Gronfa Gelf (prif elusen gelf annibynnol Prydain) a'r Cyngor Crefftau (yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer crefftau cyfoes) i annog amgueddfeydd ac orielau o gwmpas Prydain i gaffael y gorau mewn crefftau rhyngwladol cyfoes. Oherwydd llwyddiant Casglu'r Gronfa Gelf y llynedd, cynyddodd y Gronfa Gelf y wobr o £50,000 i £75,000 eleni.

Yr amgueddfeydd a'r orielau eraill a enillodd oedd: Oriel Gelf Aberdeen, Oriel Grefftau Bilston, Wolverhampton; Sefydliad Celf Gyfoes Middlesbrough (mima); ac Amgueddfa Fictoria ac Albert.

Derbyniwyd cyfanswm o 23 o geisiadau i Gasglu'r Gronfa Gelf yn Chwefror 2009. Cyhoeddwyd y rhestr fer derfynol o ddeg yn Ebrill.

Digwyddodd Casglu 2009 15-17 Mai 2009 yn Oriel Saatchi, Pencadlys Dug Efrog, Ffordd y Brenin, Llundain, SW3 4SQ.

Diwedd

Nodiadau i'r golygydd:

Y Gronfa Gelf: Prif elusen gelf annibynnol Prydain yw'r Gronfa Gelf. Mae'n cynnig grantiau i helpu amgueddfeydd ac orielau gyfoethogi eu casgliadau, yn ymgyrchu ar ran amgueddfeydd a'u hymwelwyr ac yn hybu mwynhad celf. Fe'i noddir yn llwyr gan gyfraniadau cyhoeddus ac mae ganddi 80,000 o aelodau. Er 1903 bu'r elusen yn helpu amgueddfeydd ac orielau dros Brydain i gaffael 860,000 o weithiau celf i'w casgliadau. Mae cyflawniadau diweddar yn cynnwys: helpu caffael Diana ac Acteon Titian ar gyfer Orielau Cenedlaethol yr Alban ac Oriel Genedlaethol Llundain yn Chwefror 2009 gyda grant o £1 miliwn; helpu caffael casgliad Anthony d'Offay, ARTIST ROOMS, ar gyfer y Tate ac Orielau Cenedlaethol yr Alban yn Chwefror 2008 gyda grant o £1 miliwn; a lansio apêl gyhoeddus Prynu traw brws a gododd dros £550,000 i gadw dyfrliw Turner, Rigi las ym Mhrydain. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa'r Wasg ar 020 7225 4888 neu ewch i www.artfund.org

Mae'r Gronfa Gelf yn elusen gofrestredig, rhif 209174

Y Cyngor Crefftau: Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer crefftau cyfoes yw'r Cyngor Crefftau. Nod y Cyngor Crefftau yw gwneud Prydain y lle gorau yn y byd i wneud, gweld a chasglu crefftwaith cyfoes. Am fwy o wybodaeth am y Cyngor Crefftau ewch i www.craftscouncil.org.uk. Cefnogir y Cyngor Crefftau gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Mae Cyngor Celfyddydau Lloegr yn gweithio dros gael celf wych i bawb drwy fod yn bencampwr, datblygwr a buddsoddwr mewn profiadau celfyddydol sy'n cyfoethogi bywydau pobl. Fel yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y celfyddydau cefnogwn ystod o weithgareddau celfyddydol gan gynnwys theatr, cerddoriaeth, llenyddiaeth, dawns, ffotograffiaeth, celf ddigidol, carnifal a chrefftau. Mae celf wych yn ein hysbrydoli a'n cysylltu, ein haddysgu ac agor ein llygaid. Mae bywyd yn well o'i herwydd. Yn y cyfnod 2008-11 buddsoddwn £1.3 biliwn o arian cyhoeddus y llywodraeth a £0.3 biliwn o'r Loteri Genedlaethol i greu'r profiadau hyn am gynifer o bobl ag sy'n bosibl ar draws Prydain.

Amgueddfa Cymru: Dathlodd Amgueddfa Cymru ei chanmlwyddiant yn 2007. Mae'n gasgliad o saith amgueddfa genedlaethol ac mae pob un yn portreadu gwahanol agweddau ar hanes a diwylliant cyfoethog Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae mynediad i bob Amgueddfa am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gwybodaeth ar Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn amgueddfa amlddisgyblaethol sy'n gartref i gasgliadau celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Mae'n unigryw ymhlith amgueddfeydd Prydain am ei hystod o arddangosiadau celfyddydol a gwyddonol. Ar hyn o bryd mae'r Amgueddfa'n croesawu tua 300,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Datblygiadau celfyddydol: Mae'r Amgueddfa'n enwog am ei chasgliad celf sy'n un o'r goreuon yn Ewrop. Mae'r casgliad yn cynnwys gweithiau gan Poussin, Syr Joshua Reynolds, Gainsborough a JMW Turner, cerfluniau gan Rodin a Degas, ac arddangosiadau cyfnewidiol o'n lluniau Argraffiadol ac Ôl-argraffiadol gan gynnwys gweithiau gan Monet, Renoir a Cézanne. Mae gwella arddangosiadau celf, creu gofod ychwanegol a newid yn sylfaenol y ffordd mae gweithiau'n cael eu harddangos yn rhan o ymgyrch gyfredol Amgueddfa Cymru i wella sut y cyflwynir casgliad celf Cymru a gwireddu ein cynllun hirdymor i greu Oriel Gelf Cymru.