Datganiadau i'r Wasg

Gwobr addysg bwysig i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn rhagori ym maes addysg.

Ar ôl archwiliad trylwyr yn ystod yr haf dyfarnwyd Gwobr Sandford ar gyfer Addysg Treftadaeth i'r Amgueddfa sef y wobr bwysicaf ym maes addysg sydd ar gael.

Mae'r wobr yn cydnabod ansawdd y gwasanaethau addysgol ac mae panel o feirniaid annibynnol yn asesu'r ceisiadau.

Meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris, am y newydd: "Mae'r tîm addysg yn llawn haeddu'r wobr am eu gwaith gwych yn y gorffennol ac yn awr."

Meddai Rosalyn Gee, Rheolwr Addysg yr Amgueddfa: "Eleni croesawyd dros 13,300 o blant ysgol ac athrawon i'r Amgueddfa. Mae gan amgueddfeydd le pwysig wrth gefnogi addysg ac rydym yn falch o'n cyfraniad. Mae'r wobr yn gydnabyddiaeth o waith caled y tîm ac yn enwedig y Swyddog Addysg Ffurfiol, Mandy Westcott. Edrychwn ymlaen at greu cysylltiadau cryfach ag ysgolion y De a'r tu hwnt."

Meddai Ceri Black, Pennaeth Addysg, Amgueddfa Cymru: "Rydym yn gweithio'n agos gydag athrawon a'u disgyblion i wneud yn si?r bod y rhaglenni'n cwrdd ag anghenion y disgyblion, y cwricwlwm cyfnewidiol a'r pwyslais newydd ar sgiliau. Rydym yn falch o gael y wobr sy'n cydnabod ymrwymiad staff Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i addysg."

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ymuno ag amgueddfeydd eraill a gafodd y wobr gan gynnwys Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Diwedd

Am fwy o fanylion am Wobr Sandford ewch i www.heritageeducationtrust.org.uk/het_ssi/awards.shtml

Am fwy o fanylion ffoniwch Marie Szymonski, Swyddog Cyfathrebu Marchnata, ar (01792) 638970

Mae cyfanswm yr ymweliadau ysgol ar gyfer y cyfnod rhwng Ionawr a chanol Tachwedd 2009

Mae mynediad i'n hamgueddfeydd am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.