Datganiadau i'r Wasg

Hwyl Nadoligaidd am ddim yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Os ydych yn pendroni am sut i ddiddanu'r plant dros y Nadolig, cofiwch Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Gallwch gerdded i'r Amgueddfa mewn pum munud o ganol y ddinas ac mae'n lle delfrydol i ymweld ag ef am ddigwyddiadau neu ymlacio gyda phaned.

Yn y cyfnod 23 Rhagfyr-3 Ionawr byddwn yn difyrru'r plant gyda Llwybr darganfod a dysgu. Bydd cliwiau sy'n arwain at ffeithiau difyr am yr Amgueddfa.

Ar ôl y Nadolig gall plant oed 4-10 gymryd rhan mewn gweithdy Adlewyrchydd golau allan o bapurau losin (28-31 Rhagfyr) sy'n weithdy galw heibio lle cânt gyfle i greu adlewyrchydd golau. Bydd y gweithdy yn digwydd 1-4pm.

Mae gennym lawer o arddangosfeydd yn ogystal â digwyddiadau. Bydd Ysbrydion dur sef arddangosfa ffotograffyddol o waith dur Whitehead yng Nghasnewydd ar ddangos tan y flwyddyn newydd. Bydd Hyd y diferyn olaf: olew a Llandarsi sy'n trafod canrif o hanes purfa olew gyntaf Prydain ar ddangos tan fis Chwefror a gallwch ddilyn hynt Mike and Simon (Tîm Elfen yr Iwerydd) wrth eu bod yn ceisio rhwyfo 2,500 o filltiroedd môr ar draws yr Iwerydd. Byddwn yn dilyn eu hynt yn ystod y ras 65 dydd a gobeithiwn arddangos eu cwch yn yr Amgueddfa y flwyddyn nesaf.

Ond os nad ydych yn rhydd cyn y Nadolig bydd digon yn digwydd yn y flwyddyn newydd. Bydd David Toman, Cyfarwyddwr BP, yn rhoi sgwrs ar droi'r hen burfa olew yn Llandarsi yn bentref dinesig arloesol ddydd Sul 24 Ionawr am 2.30pm.

Bydd digwyddiad sy'n gysylltiedig ag Wythnos Genedlaethol Adrodd Stori ddydd Sadwrn 30 Ionawr lle bydd yr awdur plant Mary Medlicott yn adrodd ei storïau mwyaf diddorol am longau ar y môr. Bydd y digwyddiad hwn yn ddelfrydol ar gyfer plant oed 4-10 ac yn digwydd 12-4pm.

Beth bynnag sydd ar yr arfaeth gennych dros y Nadolig cofiwch ddod i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Am fwy o fanylion ewch i http://www.amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (01792) 638950 i gael eich taflen ar gyfer y gaeaf.

.