Datganiadau i'r Wasg

Arddangos Deddf Uno 1536 am y tro cyntaf erioed

O 5 Mai 2011 i 27 Gorffennaf 2011 bydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn arddangos Deddf Uno 1536, y ddeddfwriaeth fu’n bennaf gyfrifol am uniad gwleidyddol a chyfreithiol Cymru a Lloegr.

Wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfri drannoeth etholiadau’r Cynulliad, bydd disgwyl eiddgar i weld tirlun gwleidyddol diweddaraf Cymru. Ond fwy na degawd wedi datganoli p?er o San Steffan i Fae Caerdydd, bydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn arddangos y Ddeddf oedd yn bennaf gyfrifol am uniad gwleidyddol a chyfreithiol Cymru a Lloegr yn y lle cyntaf, sef Deddf Uno 1536; dyma’r tro cyntaf iddi ymweld â Chymru.

 

Doedd gan goron Lloegr ddim gafael dros Gymru gyfan cyn 1536. Roedd ardaloedd deheuol a dwyreiniol y wlad yn glytwaith o arglwyddiaethau annibynnol y Gororau; arglwyddi pwerus oedd yn cynnal eu llysoedd eu hunain, codi trethi a chadw byddinoedd preifat. Roedd Harri’r VIII am weld unffurfiaeth yng Nghymru a Lloegr o ran crefydd a chyfraith a threfn a chyflwynodd ddeddf newydd fel bod Cymru gyfan yn dod o dan ei awdurdod.

 

Daeth cyfraith Lloegr yn gyfraith Cymru a chyflwynwyd llysoedd newydd i weinyddu’r drefn. Crëwyd siroedd newydd, ac roedd pob sir newydd yn gallu dychwelyd Aelod Seneddol am y tro cyntaf - roedd gan Gymru ffiniau gwleidyddol pendant. Y Saesneg fyddai iaith y sefydliadau newydd a doedd y rheiny a oedd yn defnyddio’r iaith Gymraeg ddim yn cael dal swyddi cyhoeddus.

 

Mae dadlau byth ers hynny am effaith y Ddeddf ar Gymru a’i phobl. Yn ôl rhai, cyfrannodd y Ddeddf at weinyddiaeth Duduraidd effeithiol drwy greu cyfleoedd newydd i nifer o Gymry sef y rhai oedd yn mwynhau'r un hawliau a rhyddfreiniau â’u cymdogion Seisnig. I eraill daeth y Ddeddf a’i diweddariad ym 1543 yn symbolau o orthrwm coron Lloegr dros Gymru, ac oherwydd i’r ddeddf rwystro’r dosbarth llywodraethol rhag arddel y Gymraeg, honnwyd iddi arwain at agweddau dilornus tuag at yr iaith.

 

“...because that in the same country, principality, and dominion divers rights, usages, laws, and customs be far discrepant from the laws and customs of this realm, and also because that the people of the same dominion have and do daily use a speech nothing like nor consonant to the natural mother tongue used within this realm, some rude and ignorant people have made distinction and diversity between the king's subjects of this realm and his subjects of the said dominion...“

 

Bydd Deddf Uno i’w gweld yn Oriel Un, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru fel rhan o ‘Creu Hanes: 1500-1700’, arddangosfa a chyfres arbennig o ddigwyddiadau yn edrych ar y ddwy ganrif gythryblus hyn.

 

-DIWEDD-

 

Am fwy o wybodaeth a lluniau, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3185 / 07920 027067, ebost catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk neu Iwan Llwyd, Swyddog Cyfathrebu (029) 2057 3486 / 07920 027054 iwan.llwyd@amgueddfacymru.ac.uk