Datganiadau i'r Wasg

Ydych chi am fod yn gladiator?

Dewch draw! Dewch draw! Dewch i gael eich rhyfeddu a’ch syfrdanu! Mae’r gladiator wedi ennyn teimladau o ofn a chyffro erioed, o Spartacus i Maximus Russell Crowe. Nawr, mae cyfle i chi gamu nol mewn amser a phrofi bywyd Gladiator yn yr Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion yn yr ardd Rufeinig ar ddydd Sadwrn 2 a dydd Sul 3 Gorffennaf, 10am-5pm.

 

Gall ymwelwyr weld rhai o’r gladiatoriaid gorau y tu allan i Rufain yn yr arena! Gwyliwch y gladiatoriaid yn ymarfer, a dewiswch eich ffefryn. Yn y gornel Las – Celatus y Murmillo ac Amazonia y Gladiatrix! Ac yn y gornel Goch – Achillia y Gladiatrix a Lupis y Retiarius! Mae gan Celatus ac Amazonia arfau trwm, ac fe wna nhw unrhywbeth i ennill, ond mae Lupis ac Achillia yn gyflym â’i hymosodiadau fel sarff yn brathu. Pwy fydd yn ben yn yr arena?

Beth am ymuno ag ysgol y gladiatoriaid ar y diwrnod a dysgu sut y cai brwydrau gladiatoriaid eu dechrau a’r arferion oedd yn ymwneud â nhw! Bydd cyfle hefyd i grwydro drwy rai o’r stondinau fydd yn dod i’r dre gyda’r gladiatoriaid. Gyda doctor, masnachwyr a stondinau bwyd, bydd digon o gyfle i wario’ch denarii rhwng y gornestau. Mae rhywbeth yma at ddant y teulu cyfan!

Prisiau: Oedolion £3 a phlant £2. Am ddim i blant dan 5.