Datganiadau i'r Wasg

Codi Stem ar gyfer Sioe Trenau Bach

16 - 19 Chwefror 2012  Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis

Bach, mawr, go iawn neu fodel – bydd rhywbeth i bawb yn Sioe Trenau Bach Amgueddfa Lechi Cymru eleni.

Mae'r sioe hon yn denu miloedd o ymwelwyr a dilynwyr bob blwyddyn, ac mae'n gyfle gwych i bobl o bob oed fwynhau'r arddangosfeydd sefydlog a symudol. Yn ogystal, bydd clybiau rheilffyrdd lleol megis Bae Colwyn, De Sir Gaernarfon, Penmorfa ynghyd ag ymddangoswyr annibynol o ledled y wlad.

Fel yn y gorffennol, bydd nifer o weithgareddau amrywiol gan gynnwys reidiau am ddim i blant ar injanau stêm a threnau bach, arddangosiadau a sgyrsiau dyddiol yn ogystal â llond siediau o injanau a chynlluniau o bob maint a siâp. Eleni, bydd mwy nag erioed o'r blaen, fel yr eglurodd Dr Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa.

"Mae'r Sioe Trenau Bach wedi tyfu'n arw ac mae wedi dod yn elfen boblogaidd iawn yng nghalendr digwyddiadau gogledd Cymru - rydym yn edrych ymlaen ati bob blwyddyn. Mae gan Amgueddfa Lechi Cymru ddiddordeb byw yn y dreftadaeth reilffyrdd - wedi'r cyfan, roedd y lein bach yn allweddol i waith y chwarel a cheir injan stêm o'r chwarel, sef UNA, yng nghasgliad yr amgueddfa.

Eleni, fodd bynnag, ni fydd UNA — injan Hunslet a adeiladwyd ym 1905 —i'w gweld yn ei lle arferol yn codi stêm wrth deithio i fyny ac i lawr yr iard, fel yr eglurodd y technegydd Elfyn Jones-Roberts:

"Mae UNA yn cael archwiliad trylwyr ar hyn o bryd, rhywbeth sy�' cael ei wneud bob deng mlynedd. Mae'r injan gyfan wedi cael ei thynnu'n ddarnau er mwyn i'r Arolygiaeth Boeleri ei harchwilio'n fanwl. Rhaid i bob injan stêm gael ei harchwilio fel hyn er mwyn cael tystysgrif boeler at ddibenion yswiriant. Mae hyn yn rhoi cyfle gwych i ni gynnal sgyrsiau bob dydd er mwyn dangos beth yn union sy'n cael ei wneud ac i ddatgelu cyfrinachau dyfnaf y peirianwaith — a dysgu llawer mwy am yr injan hon a'i thebyg!

Mae injans eraill y gellir eu gweld yn cynnwys Dorothea, model wrth raddfa o injan 'bot coffi', sef math o injan a adeiladwyd gan De Winton yng Nghaernarfon tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac injan yn rhedeg ar fatrïau a adeiladwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd yna hefyd weithgareddau niferus i'r plant, gan gynnwys y 'bwrdd trenau' neu 'drac prawf' sy'n rhoi cyfle i'r plant ddod â'u hinjans '00' eu hunain i redeg ar y bwrdd traciau mawr. Bydd atyniad newydd yn 2012, sef cynllun traciau rhyngweithiol gyda locomotifau, ffair a hofrenyddion i'r plant eu rheoli.

Mae Rheilffordd Llyn Padarn gerllaw hefyd, felly manteisiwch ar y cyfle i fynd ar daith hyfryd ar y trên ar hyd Llyn Padarn (*tâl ychwanegol) a gwireddu breuddwyd pawb sy'n ymhyfrydu mewn rheilffyrdd a sicrhau diwrnod gwych allan i'r teulu cyfan!

Bydd Rheilffordd Llyn Padarn ar agor drwy gydol yr wythnos Hanner Tymor, a bydd cyfle i chi deithio ar y trên ar hyd glannau Llyn Padarn (codir tâl ychwanegol). Bydd y digwyddiad hwn felly wrth fodd y rhai sy'n caru trenau a bydd yn ddiwrnod gwerth chweil i'r teulu cyfan!

Bydd y Sioe Rheilffyrdd Model ar agor rhwng 10am a 4pm o Chwefror 16 -19 2012. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r amgueddfa ar 01286 870630.

- DIWEDD -

I gael rhagor o wybodaeth i'r wasg ynghyd â ffotograffau, cysylltwch â Julie Williams ar 01286 873707, e-bost: julie.williams@museumwales.ac.uk. Gellir cael ffotograffau gan Amgueddfa Lechi Cymru

Mae mynediad i holl safleoedd Amgueddfa Cymru yn ddi-dâl, diolch i nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am saith amgueddfa genedlaethol drwy Gymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd // Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru // Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion // Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon // Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre // Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis // Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.