Datganiadau i'r Wasg

Gwobrwyo Bardd Amgueddfa Wlan Cymru yn un o Brif Gystadleuthau Barddoniaeth y Byd

Mae Samantha Wynne-Rhydderch o Gei Newydd, sydd ar hyn o bryd yn fardd preswyl yn Amgueddfa Wlân Cymru, wedi ennill yr ail wobr yn y Gystadleuaeth Farddoniaeth Genedlaethol.  Cyhoeddwyd ei llwyddiant mewn seremoni wobrwyo yn Llundain ar 28 Mawrth.

 

 

Mae Cystadleuaeth Farddoniaeth Genedlaethol y Gymdeithas Farddoniaeth yn un o’r cystadlaethau mwyaf poblogaidd ac adnabyddus o’i bath yn y byd.  Fe’i sefydlwyd yn 1978, ac eleni denodd dros 11,000 o gerddi, gyda cerdd Samantha Wynne-Rhydderch, Ponting, yn ennill yr ail wobr.

Dywedodd Samantha Wynne-Rhydderch: “Rwy’ wrth fy modd â’r wobr oherwydd yr enw da a’r safon uchel sy’n perthyn i’r gystadleuaeth. Ac yn goron ar y cyfan, cafodd Rosalind Hudis, myfyriwr i mi ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant - lle rwy’n  Gymrawd Barddoniaeth undydd yr wythnos – gymeradwyaeth yn yr un gystadleuaeth.”

Dewiswyd yr enillwyr gan y beirniaid Colette Bryce, John Glenday a Jackie Kay. Cyhoeddwyd y tair cerdd orau, gan gynnwys ‘Ponting’ gan Samantha Wynne-Rhydderch, yn rhifyn y gwanwyn o Poetry Review ar 29 Mawrth.

Bu’r cymorthfeydd ysgrifennu sy’n cael eu cynnal bob pythefnos gan Samantha yn yr Amgueddfa mor boblogaidd fel bod pob lle wedi’i gymryd hyd yma. Dim ond pedair sesiwn sydd ar ôl cyn i’r cyfnod hyfforddi ddod i ben. I geisio cael lle, e-bostiwch Samantha.Rhydderch@museumwales.ac.uk neu ffoniwch 01559 370929.

Cynhelir y sesiynau nesaf ar 9 Mai, 23 Mai, 6 Mehefin, 20 Mehefin. Hefyd, mae Samantha yn cynnal gweithdai ysgrifennu yn yr Amgueddfa  ar yr ail ddydd Sadwrn o bob mis  tan fis Gorffennaf. Bydd y gweithdy ysgrifennu nesaf, ddydd Sadwrn 14 Ebrill, yn canolbwyntio ar ysgrifennu am gymeriad.

Dywedodd Ann Whittall, Rheolwraig Amgueddfa Wlân Cymru: “Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn llwyddiant Samantha yn y Gystadleuaeth Farddoniaeth Genedlaethol, a hefyd yn ei gwaith yma.  Mae wedi cynnig cyfleoedd creadigol newydd i bobl sy’n ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru. Mae ei sesiynau hyfforddi wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae sawl person wedi dod nôl bob mis. Gwnaed cyfnod preswyl Samantha yn bosibl fel canlyniad i nawdd gan Ymddiriedolaeth  Leverhulme.  Bydd yn dod i ben ym mis Gorffennaf.”