Datganiadau i'r Wasg
Dathlu byd gwerin Cymru ar y Glannau
Dyddiad:
2012-05-04Dewch i fwynhau cerddoriaeth werin Gymreig ar ddydd Sul 6 Mai, 1pm yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Trefnwyd y digwyddiad gyda trac: Traddodiadau Cerdd Cymru / Music Traditions Wales, a bydd yr Amgueddfa yn llwyfannu ei digwyddiad gwerinol byw cyntaf gyda pherfformiadau gan rai o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru, The Gentle Good, Carreg Lafar a Taran. Gall ymwelwyr hefyd roi cynnig ar ddawns y glocsen neu weithdai offerynnol (o 10.30am), a bydd gweithgareddau i blant a thaith canfod y glocsen gudd!
“Rydyn ni wrth ein bodd yn llwyfannu’r digwyddiad hwn yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau,” meddai Swyddog Project trac, Angharad Jenkins. “Nod trac yw hybu a datblygu traddodiadau cerdd a dawns Cymru, ac mae cynnal digwyddiad galw draw fel hwn yn ffordd wych o gyflawni’n hamcanion.
“Bydd yn cyflwyno pobl i fyd hyfryd cerddoriaeth werin Gymreig, ond hefyd yn rhoi cyfle iddyn nhw droi eu llaw at chwarae offerynnau neu ddawnsio gwerin,” ychwanegodd Angharad.
“Mae’n rhywbeth newydd a chyffrous i ni, ac felly’n gyfle gwych i ddenu cynulleidfaoedd newydd,” meddai Swyddog Digwyddiadau’r Amgueddfa, Miranda Berry. “Mae’r digwyddiad am dim ac yn agored i bawb, felly dewch draw i ddathlu g?yl y banc mewn steil.”
Mae Diwrnod Gwerinol: Calan Mai yn ddigwyddiad rhad ac am ddim. Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad a digwyddiadau eraill yn yr Amgueddfa, ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk
Am ragor o fanylion am trac: Traddodiadau Cerdd Cymru / Music Traditions Wales ewch i www.trac-cymru.org
Y bandiau:
The Gentle Good
Enw llwyfanGareth Bonello, y cerddor o Gaerdydd yw The Gentle Good. Mae’n cyfansoddi cerddoriaeth werinol fodern hyfryd yn Gymraeg a Saesneg gydag elfen seicedelig sy’n cael ei chymharu ag enwau mawr fel Nick Drake, Martin Carthy, Bert Jansch, John Renbourn, John Martyn a Donovan gan y gwybodusion. Ers dechrau perfformio yn 2005, mae cerddoriaeth Gareth wedi dod yn boblogaidd ar y sin gerddoriaeth Gymraeg a caiff ei glywed yn aml ar deledu a radio Cymraeg a Saesneg.
Carreg Lafar
Mae ysbryd cyfoes, llawn afiaith yng nghymysgedd Carreg Lafar o gerddoriaeth draddodiadol a gwreiddiol, sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yn nhraddodiad cân a cherdd Cymru. Mae’r gymysgedd fywiog o ffidil, ffliwt, pibgorn, bacbib a gitâr yn gyfeiliant i lais angerddol i’w chlywed ar dri albwm i gwmni Sain; Ysbryd y Werin, Hyn a Profiad. Aelodau Carreg Lafar yw Linda Owen Jones (llais), Rhian Evan-Jones (ffidil), James Rourke (fliwt), Antwn Owen Hicks (pibau a llais) a Danny KilBride (gitar).
Taran
Un o fandiau mwyaf dyfeisgar a dychmygus Cymru. Mae cerddoriaeth Taran yn asio’r traddodiadol Cymreig â riffiau a churiadau cryf a chymalau, rhythmau a samplau dawns, a does fawr o syndod eu bod yn ffefrynnau yng Nghymru a Llydaw yn barod.