Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Lechi Cymru yn paratoi i ddathlu'r deugain!

Bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed yn 2012 a bydd digwyddiadau a gweithgareddau’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn!

Bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed yn 2012 a bydd digwyddiadau a gweithgareddau’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn!

Caeodd y gweithdai gwreiddiol o Oes Fictoria – sydd bellach yn gartref i Amgueddfa Lechi Cymru – ym mis Awst 1969 ynghyd â Chwarel Lechi Dinorwig, ond cawsant eu hailagor ar 25ain Mai 1972 fel Amgueddfa Chwarela Gogledd Cymru. Mae Dr Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa, yn egluro ymhellach:

“Ers y diwrnod yna ym 1972 mae dros 2.6 miliwn o bobl wedi ymweld â’r Amgueddfa, sy’n un o saith safle Amgueddfa Cymru, ac maen nhw i gyd wedi cerdded drwy’r fynedfa fwaog wych er mwyn profi a dysgu mwy am hanes y diwydiant llechi enfawr yn yr ardal yma.

“Rydyn ni eisiau i’n 40fed pen-blwydd adlewyrchu a dathlu’r holl weithgarwch mae’r safle hanesyddol yma wedi’i weld yn ystod y degawdau diwetha’, o’r dyddiau cychwynnol yn y saith degau i ymweliadau gan y teulu brenhinol (Y Tywysog Siarl), ac o’r ailddatblygiad mawr ar gost o £2 filiwn ar ddiwedd y naw degau i Fynediad Am Ddim yn y mileniwm newydd.”

Bydd y dathliadau’n dechrau ar 25ain Mai gydag agor DATHLU’R DEUGAIN – arddangosfa sy’n dangos beth sydd wedi digwydd yn yr Amgueddfa yn ystod y pedwar degawd diwethaf ac sy’n olrhain sefydlu’r Amgueddfa a rôl amgueddfeydd yn ein cymunedau heddiw. Yn yr arddangosfa hefyd ceir gwaith gan ysgolion lleol a fu’n gweithio ar brosiect cyfryngau cymysg o’r enw FY AMGUEDDFA I, sydd wedi cynnwys holi aelodau’r staff a ffilmio eu hoff rannau o’r Amgueddfa. A bydd pob ymwelydd yn cael sleisen o gacen wrth gwrs!

Ar y 26ain Mai fe fydd rhagor o ddathliadau, gyda llawer o weithgareddau i’r teulu, gan gynnwys gweithdai addurno llechi, gweithdai graffiti, adloniant a theithiau tywys a sgyrsiau ar hyd a lled y safle, yn ogystal â llawer mwy o gacen!

Bydd yr Amgueddfa’n dathlu drwy gydol y flwyddyn a bydd yn cynnal ei darlith flynyddol gyntaf ar 27ain Hydref pan fydd Dr Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa, yn edrych ar hanes amgueddfeydd llechi yn yr ardal yn Cloddio’r Gorffennol – Dathlu pen-blwydd ein hamgueddfeydd llechi yn 40 oed.

Meddai Julie Williams, Swyddog Marchnata: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiadau pen-blwydd ond rydyn ni hefyd yn gobeithio cynnal y teimlad o ddathlu drwy gydol y flwyddyn. Fe fydden ni hefyd yn hoffi clywed gan unrhyw un sydd â lluniau neu gofroddion neu atgofion o’r dyddiau cynnar yna – neu sydd hyd yn oed eisiau anfon rhai o’u ffotograffau diweddar aton ni fel y gallwn ni eu cynnwys yn ein casgliad.”

Os hoffech gyfrannu, cysylltwch â’r Amgueddfa ar 02920 573700 neu yn slate@museumwales.ac.uk, neu gallwch ymuno â’r Amgueddfa ar Facebook neu Twitter @amgueddfalechi

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

Dechreuwyd gloddio am lechi ar raddfa helaeth yn Chwarel Dinorwig yn y 1780au, ac erbyn y 1890au roedd yn cyflogi dros 3,000 o ddynion a bechgyn ifanc fel chwarelwyr, prentisiaid, seiri coed, ffitwyr, fformyn a rheolwyr.

Yn ei hanterth, Chwarel Dinorwig oedd y chwarel fwyaf cynhyrchiol yng ngogledd Cymru ar ôl Chwarel y Penrhyn, a gallai gynhyrchu bron 90,000 tunnell o lechi toi bob blwyddyn. Am y rhan fwyaf o’i hoes, roedd Chwarel Dinorwig yn eiddo i deulu Assheton Smith, a oedd yn byw yn Y Faenol. O 1951 ymlaen, câi ei rhedeg gan gwmni atebolrwydd cyfyngedig.

Erbyn y 1960au, roedd y diwydiant llechi yn gyffredinol yn wynebu dyfodol mwy ansicr fyth - roedd llai o alw am lechi yn y DU yn ystod yr 20fed ganrif; roedd llechi o Gymru yn ddrud o’u cymharu â theils a llechi toi o dramor, ac roedd perchenogion Chwarel Dinorwig a Chwarel y Penrhyn yn cystadlu â’i gilydd am gyfran o farchnad gymharol fychan. Ym mis Gorffennaf 1969, daeth yr archebion hyn i ben - yr hoelen olaf yn yr arch. Pan gaeodd Chwarel Dinorwig - a oedd yn un o nifer helaeth o chwareli llechi i gau yn y 1960au - roedd hyn yn llawer mwy nag ergyd economaidd - roedd ffordd o fyw yn wynebu dyfodol ansicr.

Daeth adeiladau Gweithdai’r Gilfach Ddu yn amgueddfa ( Amgueddfa Chwareli Gogledd Cymru) yn 1972. Roedd tal mynediad o 10c i oedolion a 5c ar gyfer plant a pensiynwyr.

Mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru: Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis / Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd / Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru / Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion / Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru / Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre/ Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe