Datganiadau i'r Wasg

CYHOEDDI GWELLIANNAU I AMGUEDDFA LECHI CYMRU

Heddiw, 13 Awst, ategodd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC) ei ymrwymiad i wneud mwy fyth o'i gasgliadau'n hygyrch i'r genedl wrth gadarnhau sut y bydd yn gwario grant gwerth £3.5 miliwn oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad.

Bydd y grant yn golygu y bydd modd storio casgliadau helaeth yr Amgueddfa o dan well amodau. Bydd hyn yn cynnwys cartref newydd i gasgliadau Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, lle mae casgliad pwysig o batrymau pren a ddefnyddiwyd i greu darnau ar gyfer peiriannau'r diwydiant llechi. Bydd y gwaith yn ateb argymhellion adroddiad diweddar y Swyddfa Archwilio Gwladol ar strategaeth rheoli casgliadau'r Amgueddfa. At hynny, bydd yr arian yn galluogi AOCC i ddatblygu rhagor ar ei waith gyda phartneriaid ledled Cymru.

Llywodraeth y Cynulliad sydd wedi darparu'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer y gwaith hwn. Ond mae AOCC yn dal i chwilio am gyllid preifat ac arian oddi wrth y sector cyhoeddus ehangach er mwyn cwblhau pecyn ariannol ar gyfer y cynllun a fydd yn costio rhyw £5 miliwn i gyd.

"Rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi ein cynlluniau cyffrous i ddatblygu a gwella ein cyfleusterau storio yn AOCC," meddai Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgueddfa. "Bydd yn arian oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad yn rhoi tipyn o hwb i'n gwaith, ac yn ein helpu ni i'w gwneud yn haws nac erioed o'r blaen i'r cyhoedd elwa ar ein casgliadau, gan gynnwys y casgliadau cadw sydd o'r golwg ar hyn o bryd."

Ychwanegodd Alun Pugh AC, Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon:

"Rydw i'n falch dros ben fod AOCC yn defnyddio'r cyllid hwn a addawyd eisoes gan y Cynulliad mewn ffordd mor strategol, nid dim ond i wella ei gyfleusterau storio ond i wneud ei gasgliadau helaeth yn haws i'r cyhoedd fynd atyn nhw."

Mae gan AOCC chwe safle ar draws Cymru ar hyn o bryd sef, yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd; Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan; Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon; yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn 2005.

Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Julie Richards, Swyddog y Wasg
Yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol
Llinell uniongyrchol: 029 2057 3185
E-bost: julie.richards@amgueddfacymru.ac.uk

Nick Beasley, Pennaeth Marchnata AOCC
Llinell uniongyrchol: 029 2057 3176
E-bost: nick.beasley@amgueddfacymru.ac.uk