Datganiadau i'r Wasg

Dyfarnu £100,000 i Amgueddfa Cymru gan chwaraewyr People’s Postcode Lottery

Mae chwaraewyr y People’s Postcode Lottery wedi dyfarnu nawdd i Amgueddfa Cymru, er mwyn darparu amrywiaeth eang o arddangosfeydd a gweithgareddau i ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Bydd y rhodd hael o £100,000, yn galluogi Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddatblygu ei rhaglen ymhellach dros y flwyddyn nesaf ac agor casgliadau cenedlaethol Cymru i fwy fyth o bobl.

Cynhelir gwledd o arddangosfeydd a digwyddiadau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod 2014, gyda chyfle i weld cerfluniau, tirluniau, ffotograffiaeth bywyd gwyllt a gwobr celf gyfoes fwyaf y DU.

Bydd arddangosfa fawr Richard Wilson a Gweddnewidiad Peintio Tirluniau Ewropeaidd yn dathlu trichanmlwyddiant geni Richard Wilson (1714-1782) – artist mwyaf Cymru yn ôl rhai. Bu artistiaid Prydain yn cofnodi ymddangosiad y tirlun erioed, ond dangosodd Wilson sut i gyfleu haenau o ystyron, naws ac emosiwn trwy gyfrwng tirluniau (5 Gorffennaf – 26 Hydref 2014).

Arddangosfa newydd i’r teulu cyfan yw Seeing Nature yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld y byd drwy lygaid chwilod ac i gael golwg fanwl ar wrthrychau hanes natur dan y meicrosgop (19 Gorffennaf 2014 – Ebrill 2015).

Caiff rhaglen goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Amgueddfa Cymru ei lansio gyda Ysbrydoli’r Ymdrech: Printiau’r Rhyfel Byd Cyntaf – arddangosfa o waith gan rai o artistiaid gorau Prydain, gan gynnwys y Cymry Augustus John a Frank Brangwyn (dydd Sadwrn 2 Awst – Ionawr 2015).

Hyd yn hyn, mae chwaraewyr y People’s Postcode Lottery wedi codi dros £35.6 miliwn at achosion da, ac eleni maent yn dechrau ar raglen hirdymor o gefnogi gwaith Amgueddfa Cymru ledled Cymru. Dywedodd Kate Pearson, Dirprwy Bennaeth Elusennau gyda People’s Postcode Lottery:

“Rydyn ni wrth ein boddau yn datgan ein cefnogaeth i Amgueddfa Cymru. Bydd y rhodd o £100,000 gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery yn galluogi’r sefydliad i gynnig ystod ehangach o arddangosfeydd ac i gyrraedd cymunedau newydd. Gobeithio bod pob ymwelydd yn edrych ymlaen at y cyfle i flasu’r arlwy newydd.”

Dyma David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru yn esbonio ymhellach:

“Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, rydym yn dibynnu ar gefnogaeth allanol i barhau â’n gwaith o ofalu am gasgliadau cenedlaethol Cymru a’u rhannu. Diolch i gefnogaeth hael chwaraewyr y People’s Postcode Lottery, gallwn ni sicrhau y bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn parhau i gynnig rhaglen amrywiol a dyfeisgar i ymwelwyr ac yn cyrraedd mwy o bobl nag erioed.”

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.  

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.