Datganiadau i'r Wasg

Cyfle olaf i weld Oriel ‘Gwreiddiau’ archaeoleg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mis yma yw'r cyfle olaf sydd i weld trysorau cynhanesyddol, Rhufeinig ac Oesoedd Canol Cymru yn eu cartref presennol cyn i ran o’r casgliad gael ei symud a’i ailarddangos yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Ewch i oriel Gwreiddiau: Canfod y Gymru Gynnar yn Amgueddfa Gendlaethol Caerdydd cyn dydd Llun 3 Mawrth 2014 i weld eich hoff wrthrychau archaeolegol. 

Yn oriel Gwreiddiau gellir gweld rhai o’r gweddillion dynol cynharaf i gael eu canfod yng Nghymru, gwrthrychau aur gwych o’r Oes Efydd a dyrnfol cleddyf oes Llychlynnaidd ag arno addurn cain. Bydd carreg addurnedig o Feddrod Bryn Celli Ddu, breichdorchau aur Capel Isaf, y brigwrn Capel Garmon, cwpan llewpard y Fenni a Diptych Llandaf yn cael eu harddangos yng Ngaerdydd tan ddechrau Mawrth.

 

Wedi hyn, bydd Gwreiddiau yn cau wrth i ni baratoi i agor orielau newydd fel rhan o’r fenter gwerth £25.5 miliwn i weddnewid Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Bydd gwaith ailddatblygu Sain Ffagan, fydd wedi’i gwblhau yn 2017, yn cynnwys gofodau arddangos newydd ac yn dod â’r casgliadau hanes ac archaeoleg ynghyd mewn ffyrdd newydd.

 

Bydd cynnwys casgliadau archaeolegol yn galluogi Amgueddfa Cymru i ymestyn llinell amser y straeon gaiff eu hadrodd yn Sain Ffagan er mwyn i ymwelwyr ddysgu am hanes pobl Cymru o’r brodorion cyntaf hyd heddiw a thu hwnt.

 

Yn y cyfamser, bydd yr oriel yn cael ei defnyddio fel storfa ac ar gyfer cadwraeth gwrthrychau cyn eu symud i Sain Ffagan. Y bwriad yw ailagor yr oriel fel gofod arddangos dros-dro Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2016.

 

Meddai Dr Peter Wakelin, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru:

 

“Mae Gwreiddiau wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith ein hymwelwyr ac rydym yn ymfalchïo yn hyn. Rydym yn credu, fodd bynnag, bod cyfle bellach i arddangos y gwrthrychau yn Sain Ffagan mewn ffordd newydd fydd yn apelio at fwy fyth o bobl.

 

“Ers derbyn nawdd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri yn 2012 i weddnewid Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ein bwriad erioed fu i ailarddangos y casgliad archaeoleg a dod â’r hanesion yn fyw mewn ffyrdd newydd a dyfeisgar.

 

“Yn y cyfamser, rydym yn edrych ar wahanol ffyrdd o gyflwyno ein gwrthrychau archaeolegol mwyaf cyffrous i’r cyhoedd. Bydd ein cyfres boblogaidd o sgyrsiau archaeoleg awr ginio a theithiau tu ôl i’r llenni yn parhau fel arfer yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a gallwch chi ddysgu rhagor am gasgliad archaeoleg Cymru a’u straeon ar wefan Rhagor.”

 

Gellir parhau mwynhau gwrthrychau archaeolegol o’r casgliadau  cenedlaethol bydd ar fenthyg i amgueddfeydd lleol ar draws Cymru, fel yn Amgueddfa Llangollen o Fehefin 2014 a’r Llyfrgell Genedlaethol (o ddiwedd mis Mawrth 2014). Mae cyfle hefyd i weld casgliadau Rhufeinig yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, dysgu o ble daeth grym byddin Rhufain, a mwynhau arddangosfeydd ac arteffactau sy’n dangos sut fydde y milwyr yn byw ac yn brwydro, yn addoli ac yn marw.

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

 

Gellir darllen rhagor am rai o wrthrychau mwyaf eiconig ein casgliad archaeoleg yn y llyfr Darganfod y Gymru Gynnar.