Datganiadau i'r Wasg

HWYL YR HANNER TYMOR YN AMGUEDDFEYDD CAERDYDD

Mae drysau’r ysgol dan glo ond mae digonedd o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd i’ch diddanu chi a’r plant yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru dros yr hanner tymor. Rhwng 22 a 28 Chwefror dewch i fwynhau celf a chrefft, archaeoleg, garddio, hanes natur a llawer mwy – ac mae mynediad AM DDIM!

 

Wythnos hanner tymor fydd eich cyfle olaf i weld trysorau cynhanesyddol, canoloesol ac Oes Efydd Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd cyn iddynt gael eu symud Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Dewch i oriel Gwreiddiau: Canfod y Gymru Gynnar cyn dydd Llun 3 Mawrth 2014 i weld eich hoff wrthrychau archaeolegol. 

Yn ein gweithdai Rwy’n Caru Archaeoleg rhwng 11am a 4pm ar 22-28 Chwefror, bydd cyfle i ddysgu mwy am ein casgliadau a chyfrannu at waith celf ar y cyd.

Dewch i ddysgu mwy am ŵr angof esblygiad, Alfred Russel Wallace, yn ein harddangosfa hanes natur hynod. Bydd gweithdai delfrydol i deuluoedd hefyd, Welwch chi Wallace?, am y cawr o wyddonydd o Oes Fictoria am 11am, 1pm a 3pm, 22-28 Chwefror.

Hefyd i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mae arddangosfa o ddarluniau Syr Peter Blake o Under Milk Wood. Dyma benllanw project 25 mlynedd gan yr artist ac mae’n cynnwys portreadau, collages a darluniau o bentref dychmygol Llareggub. Cewch weithio gydag artist yn ein Gweithdy Darlunio i ddarlunio geiriau cyfarwydd a chreu collages (25-28 Chwefror, 11.30am, 1.30pm a 3.30pm).

Mae rhaglen Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru hefyd yn llawn gweithgareddau gwych ar gyfer pawb o bob oed. Bydd Cert Celf enwog yr Amgueddfa ar gael bob dydd yn ystod y gwyliau a bydd sesiynau wedi’u hwyluso yn trafod byd natur (24-28 Chwefror 2014, 11am-1pm a 2pm-4pm).

Yn Sain Ffagan dewch draw i’n Gweithdai Cynaliadwyedd arbennig i weld sut oedd pobl yn coginio, cadw’n gynnes ac adeiladu tai yn y gorffennol (25-28 Chwefror, 11am, 1pm a 3pm). A pha le gwell i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a diwedd y gwyliau na Sain Ffagan? Ymunwch â ni ar Fawrth y cyntaf am ddawnsio gwerin, pobi traddodiadol, cennin Pedr anferth a phicen ar y maen am ddim!

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r ddwy Amgueddfa.